Pro 14: Dreigiau 16-5 Zebre

  • Cyhoeddwyd
Arwel RobsonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Arwel Robson gais a chic gosb i'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf

Llwyddodd y Dreigiau i ennill 16-5 yn erbyn Zebre i'w codi oddi ar waelod tabl y Pro 14.

Sgoriodd Arwel Robson gais a chic gosb i'r tîm cartref, gyda Dafydd Howells hefyd yn croesi'n llwyddiannus.

Cyn yr egwyl fe groesodd Mattia Bellini i'r ymwelwyr i wneud y sgôr yn 13-5 ar yr hanner.

Fe ychwanegodd y Dreigiau at y sgôr gydag unig bwyntiau'r ail hanner yn dod drwy gic gosb lwyddiannus Jordan Williams.