Pro 14: Gweilch 27-10 Benetton
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd y Gweilch i ennill o 27-10 gartref i Benetton yn y Pro 14 nos Sadwrn.
Yn dilyn colled drom yn Munster wythnos diwethaf, roedd 12 newid i dîm y Gweilch, gyda nifer o'r prif chwaraewyr yn dychwelyd i'r tîm.
Llwyddodd seren y gêm Sam Davies i sgorio 17 pwynt oedd yn cynnwys un cais.
Dan Evans a Justin Tipuric sgoriodd weddill y pwyntiau, er i Tipuric gael ei anfon i'r gell gosb am gyfod.
Er i'r Gweilch ildio 13 cic gosb ac 13 trosiad, a Benetton reoli'r hân fwyaf o'r meddiant, fe lwyddodd y tîm cartref i amddiffyn yn gryf i selio'r fuddugoliaeth.
Mae'r fuddugoliaeth yn codi'r Gweilch i'r ail safle yn y tabl.