Ymchwiliad i 'anghysonderau' posib ym Mlaenau Gwent
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall fod ymchwiliad ar y gweill i honiadau o "anghysonderau ariannol" yng Nghyngor Blaenau Gwent.
Yn ôl Heddlu Gwent, mae'r ymchwiliad yn ymwneud â "rhannau o reolaeth gwasanaethau gwastraff" yr awdurdod, ond nid oes unrhyw un wedi ei arestio.
Dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru eu bod wedi mynegi eu pryderon i'r heddlu yn gynharach eleni.
Doedd yr ymchwiliad ddim yn adlewyrchiad o reolaeth ariannol y cyngor, meddai Cyngor Blaenau Gwent, ond yn ymwneud ag un maes penodol.
'Her syfrdanol'
Gwaith Swyddfa Archwilio Cymru yw rhoi barn ynglŷn ag a yw datganiad ariannol yn rhoi darlun teg o weithredoedd ariannol cyrff cyhoeddus.
Mae eu hadroddiad yn awgrymu fod yna £12.85m o "ddatganiadau anghywir" yn y flwyddyn ariannol 2017/18, a £8.63m yn 2016/17 - a bod y rhain nawr wedi eu "cywiro" gan reolwyr.
Yn ôl archwilwyr roedd hefyd enghreifftiau o daliadau ac incwm yn cael eu nodi yn y flwyddyn ariannol anghywir.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Archwilio nad oedd y penderfyniad i gyfeirio'r mater yn golygu eu bod o'r farn fod trosedd wedi digwydd.
Fe fydd cynghorwyr Blaenau Gwent yn cwrdd ddydd Mawrth i ystyried yr adroddiad gan archwilwyr ariannol.
Dywed yr adroddiad fod y cyngor yn wynebu "her syfrdanol' i sicrhau bod eu cyfrifon wedi eu hawdurdodi cyn y dyddiad terfynol, sef 30 Medi.
Ddim yn adlewyrchiad o'r cyngor
Mewn datganiad dywedodd y cyngor: "Ar hyn o bryd does dim modd i Archwilydd Cyffredinol Cymru awdurdodi cyfrifon y cyngor am 2017/18 oherwydd bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Heddlu Gwent i anghysonderau ariannol a llywodraethol posib.
"Mae'n rhaid pwysleisio nad yw hyn yn adlewyrchiad o reolaeth ariannol y cyngor... ond mae'n ymwneud ag un maes penodol, ein trefniadau gyda chwmni Silent Valley Waste Services."
Ychwanegodd y datganiad: "Dyw cyfrifon 2016/17 chwaith heb eu hawdurdodi am yr un rheswm."