Hel arian i chwaraewr rygbi wedi anaf difrifol

  • Cyhoeddwyd
Mathew ParryFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llun o Mathew Parry yn yr ysbyty ei rannu gan y rhai sy'n casglu arian iddo

Mae bron i £5,000 wedi ei gasglu ar-lein i ddyn o Dregarth a dorrodd ei wddf yn chwarae rygbi.

Roedd Mathew Parry, 33, yn chwarae i Glwb Rygbi Pwllheli yn erbyn ei gyn-glwb Bethesda pan gafodd ei anafu'n wael ar 15 Medi.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd cyn cael llawdriniaeth frys ar ei wddf a'i gefn yn uned trawma ysbyty Stoke.

Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus ac mae bellach yn gwella gartref, er mewn tipyn o boen, yn ôl ei deulu.

Cafodd y gêm gynghrair ei gohirio ar ôl 35 munud yn dilyn yr anaf.

'Wedi newid am byth'

Bellach, mae dros £4,700 wedi cael ei roi mewn rhoddion ar wefan GoFundMe i Mr Parry a'i deulu.

Mae'r dudalen we yn nodi y bydd Mr Parry, sy'n sgaffaldiwr, ddim yn gallu gweithio am gyfnod a bod ei "yrfa rygbi ar ben".

Ffynhonnell y llun, Gareth Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y maswr Mathew Parry yn chwarae i Bwllheli yn erbyn ei gyn-glwb, Bethesda, pan gafodd yr anaf

Yn ôl William Martin, Cadeirydd Clwb Rygbi Pwllheli, mae'r swm yn dangos y lefel o gefnogaeth sydd i deulu Mr Parry, sy'n dad i ddau o blant.

"Diolch i Dduw ei fod o'n gwella yn slo bach, ond mae'i fywyd o wedi newid am byth," meddai Mr Martin.

"Mae'n anodd achos mae o'n gorfod dod i dermau 'efo hynny rŵan.

"Dwi wedi bod yn ymwneud 'efo rygbi ers dros 50 mlynadd a dyma'r peth gwaetha' i fi ddod ar ei draws o.

"'Da ni'n sicrhau ein bod ni'n gwneud bob dim 'da ni'n gallu i Mathew a'r teulu. Mae pobl wedi bod yn grêt."

Dywedodd Clwb Rygbi Bethesda eu bod nhw'n dymuno "gwellhad buan" i Mr Parry.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda chlwb Pwllheli ac mae'r corff yn edrych i mewn i'r digwyddiad ar 15 Medi.

Bydd Pwllheli a Bethesda yn wynebu ei gilydd eto mewn gêm gwpan ddydd Sadwrn.