Mam a mab yn llwyddo mewn sioe harddwch

  • Cyhoeddwyd

Mae Shannon a'i mab bach Bentley o Borthmadog newydd ennill y gwobrau Miss Belle a Little Master Belle Cymru 2018 mewn pasiant harddwch cenedlaethol.

Maen nhw nawr yn cael y cyfle i gystadlu mewn pasiant rhyngwladol yn Sbaen y flwyddyn nesaf.

Cafodd Shannon sgwrs â Shân Cothi ar raglen Bore Cothi fore Mercher am y profiad.

Shannon a Bensley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bentley yn dair a hanner, ac wrth ein fodd yn cystadlu ochr-yn-ochr â'i fam, Shannon

Sut ddechreuodd hyn i gyd?

"Nathon ni gystadlu yng Ngharnifal Llanberis ac roedd Bentley wedi mwynhau gwisgo i fyny a ddaeth o'n ail. Ac roedd o isho gneud eto - ond doedd na'm carnifal tan haf nesa' felly nes i edrych mewn i basiantau.

"Dydyn nhw ddim yn boblogaidd yn yr ardal yma, felly 'dan ni wedi cystadlu mwy yn ardal Wigan."

Sut beth oedd y profiad o gystadlu yn y pasiant?

"Roedd yna rownds gwahanol, lle oddan ni'n gwisgo mathau gwahanol o ddillad, ac roedd 'na gyflweliad efo fi. Roedd pawb mor gyfeillgar, hyd yn oed y beirniaid.

"Roedd Bentley wrth ei fodd! Mae o rêl cymeriad - doedd o ddim isho dod off y llwyfan - roedd rhaid i'w dad o ei ôl o i ffwrdd!

line
line

Beth fyddwch chi yn ei wneud yn y pasiant rhyngwladol yn Alicante fis Ebrill nesa'?

"Fydd 'na wythnos o hyfforddi, a byddwn ni'n cael mynd i bartïon a water parks ac yn cael photoshoots ar lan y môr, a chyfarfod pobl newydd. Mae Bentley mor excited!

"Rhaid i ni neud 30 o appearences cyn mynd, er mwyn codi ymwybyddiaeth am y pasiant ac i godi arian i elusen sy'n helpu teuluoedd efo plant sâl yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl.

"Eleni mae Belle Pageant wedi codi dros £20,000 i'r elusen. 'Dan ni'n mynd i ymweld mis Rhagfyr - fydd o'n dda i Bentley gael cyfarfod y plant."

Beth yw ymateb gweddill y teulu i'r pasiantau?

"Doedd y teulu ddim yn siŵr i ddechra, achos doddan nhw ddim yn gwybod sut fasan ni'n teimlo 'sa ni'n colli - ond nathon ni ennill diolch byth!

"Mae fy merch i, Everly, yn chwe mis oed ac mae hi'n cystadlu hefyd. Dwi 'chydig bach yn obsessed ar hyn o bryd! O'n i isho cystadlu pan o'n i'n iau ond do'm i'm yn cael, felly mae hyn yn grêt!"

Shannon a Bentley
Disgrifiad o’r llun,

Shannon a Bentley yn wên o glust i glust gyda'u coronau!