Apêl am amser digonol i drafod iechyd meddwl gan elusen

  • Cyhoeddwyd
iechyd meddwl

Mae angen i gleifion iechyd meddwl gael rhagor o amser gyda'u meddyg, yn ôl elusen Mind Cymru.

Yn dilyn arolwg o 500 o gleifion gan Mind Cymru mae'r elusen yn dweud nad yw apwyntiad 10 munud gyda meddyg teulu yn ddigon.

Yn ôl yr elusen mae llawer o gleifion yn awyddus i drafod eu hiechyd corfforol yn ogystal â'u hiechyd meddwl, ond yn aml does dim digon o amser mewn un apwyntiad i wneud hynny.

Hawliodd 35% o'r rhai o holwyd nad oedd gan eu meddyg neu eu nyrs amser er mwyn dod i'w hadnabod fel person..

Mae'r elusen yn argymell y dylid caniatáu i gleifion iechyd meddwl gael apwyntiadau hirach neu apwyntiadau dwbl.

Yn ôl yr arolwg roedd gan 82% o rhai o holwyd ddim cyfle i roi adborth i feddygon teulu am eu gofal.

Hefyd roedd 75% o'r rhai a holwyd yn anghyfforddus dweud beth oedd y rheswm am yr apwyntiad oes oedd y mater yn ymwneud ag iechyd meddwl.

Awgrymodd Mind Cymru y dylid ehangu'r gallu i wneud apwyntiadau ar-lein er mwyn gwella'r profiad i gleifion.