Harrogate 0-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi llithro i'r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl sicrhau pwynt oddi cartref yn Harrogate.
Cafodd Wrecsam sawl cyfle i sgorio, ond gôl-geidwad Harrogate oedd seren y gêm, wrth iddo atal pob ymgais gan Wrecsam, gan gynnwys un arbediad gwych ar ôl rhediad Mike Fondop-Talom.
Mae Salford wedi neidio uwchben Wrecsam a Harrogate yn y tabl i'r ail safle ar ôl curo Hartlepool.
Mae Leyton Orient yn aros ar y brig ar ôl curo Braintree 5-1.