Llai o bobl ifanc Cymru'n yfed alcohol medd adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae yfed alcohol yn llawer llai cyffredin ymlith pobl ifanc Cymru yn ddiweddar, yn ôl gwaith ymchwil newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Yn ôl yr adroddiad, fe aeth lefelau yfed alcohol ymhlith bechgyn a merched i lawr o 39% yn 2002 i 11% yn 2014, sy'n is na'r cyfartaledd drwy Ewrop o 12.9%.
Fodd bynnag, mae'r gwaith ymchwil yn nodi gwahaniaeth rhwng arferion yfed merched a bechgyn.
Mae Cymru, ynghyd â Lloegr, yn un o'r unig wledydd Ewropeaidd lle mae mwy o ferched 15 oed yn meddwi na bechgyn o'r un oed.
Diffiniad "meddwi" yn yr adroddiad yw pan fod unigolyn wedi meddwi ar fwy na dau achlysur yn ei oes.
'Meddwdod wedi haneru'
Roedd merched Cymru (34%) yn ail yn unig i Ddenmarc (38%) o ran canran y merched sydd wedi bod yn feddw - 28% yw'r canran i fechgyn.
Mae adroddiad y WHO yn awgrymu bod meddwdod wedi haneru ymhlith pobl 15 oed yng Nghymru rhwng 2002 a 2014.
Yn 2002, roedd 60% o fechgyn 15 oed Cymru yn dweud eu bod nhw wedi bod yn feddw, a 59% o ferched.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod meddwdod yn fwy cyffredin ymhlith plant o gefndiroedd mwy cefnog.
Casgliad arall yn yr adroddiad yw fod gostyngiad wedi bod yn nifer y plant sy'n dechrau yfed cyn eu bod yn 13 oed.
Yn 2002, roedd gan Gymru un o'r cyfraddau gwaethaf drwy Ewrop o ran yfed alcohol ymhlith plant, ond erbyn 2014 roedd y canran i ferched wedi gostwng o 65% i 25%, a bechgyn i lawr o 69% i 25%.
Cwrw oedd y ddiod alcoholaidd fwyaf cyffredin ymhlith pobl ifanc yn 2014, yn enwedig ymhlith bechgyn, tra bo yfed gwin yn llawer uwch ymhlith merched yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn nodi bod diodydd "alcopops" wedi gostwng mewn poblogrwydd ers 2006.
Problemau iechyd
Mae yfed gormod o alcohol yn ystod blynyddoedd yr arddegau'n gallu arwain at nifer o broblemau iechyd.
Mae hefyd yn cynyddu'r perygl o niwed, damweiniau, trais, defnyddio cyffuriau eraill, cael rhyw anniogel, a pherfformiad gwael yn yr ysgol.
Er bod adroddiad y WHO yn galonogol, mae'r sefydliad yn rhybuddio bod yfed alcohol yn dal yn broblem fawr ar draws Ewrop.
Roedd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar alcohol yn unig, a ddim yn cyfeirio at sylweddau eraill fel canabis a chyfnerthwyr (stimulants).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2017