Carwyn Jones yn dechrau ras Llafur yn swyddogol
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi dechrau'r ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn swyddogol drwy roi "hysbysiad ffurfiol" am ei fwriad i gamu i'r neilltu.
Mewn llythyr i gadeirydd y blaid, Margaret Thomas, dywedodd ei fod yn rhoi gwybod y byddai'n gadael y swydd ym mis Rhagfyr.
Dywedodd y Prif Weinidog bod swyddogion wedi cytuno ar amserlen sy'n caniatáu i'r etholiad ddechrau yn syth, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 6 Rhagfyr.
Mae'n bwriadu ymddiswyddo yn y Senedd ar 11 Rhagfyr.
Daeth y llythyr i'r amlwg mewn neges ar Twitter gan AC Llanelli, Lee Waters.
Y gred yw y gallai enwebiadau agor yn ffurfiol ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018