Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 1-2 Burnley
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Burnley i gosbi ymosodwyr gwastraffus yr Adar Gleision ar brynhawn rhwystredig yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Yr Adar Gleision oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf gan roi pwysau cyson ar amddiffyn Burnley, ond prin oedd y cyfleoedd clir i naill dim neu'r llall.
Josh Murphy ddaeth agosaf i rwydo i Gaerdydd wrth iddo daro'r postyn yn dilyn gwaith ardderchog ar yr asgell chwith.
Arweiniodd chwarae taclus gan Victor Camarasa a Kenneth Zohore at arbediad campus gan Joe Hart, cyn i Callum Paterson ddod yn agos gyda pheniad cyn hanner amser.
Gwnaeth yr ymwelwyr ymosod o gychwyn cyntaf yr ail hanner, a chwta bum munud ar ôl yr egwyl cawsont eu gwobrwyo drwy beniad Johann Berg Gudmundsson wrth y postyn pellaf.
Fe wnaeth Caerdydd daro 'nôl drwy Murphy wedi 60 munud, wrth iddo grymanu'r bêl i gornel dde'r rhwyd o ganol y cwrt cosbi.
Ddeg munud yn ddiweddarach fe aeth Burnley yn ôl ar y blaen, wrth i ymosodwr Cymru, Sam Vokes, fanteisio ar amddiffyn llac Caerdydd i benio heibio Neil Etheridge.
Parhau i bwyso wnaeth y tîm cartref ond yn ofer.
Golyga'r golled fod Caerdydd yn parhau yn safle 19 yn y tabl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2018
- Cyhoeddwyd15 Medi 2018
- Cyhoeddwyd2 Medi 2018