R2D2: Y laser sy'n clirio'ch croen
- Cyhoeddwyd
Roedd Alison Jones yn arfer cymysgu gyda'r sêr fel cyfarwyddwr teledu, ond yn diweddar penderfynodd newid cyfeiriad yn llwyr.
Bellach mae wedi'i hyfforddi i fod yn therapydd sy'n trin namau gweledol ar y croen gyda laser.
Yma mae'n sgwrsio gyda Shân Cothi ar raglen Bore Cothi am ei gwaith a'i phenderfyniad i newid ei byd.
Mae gynna'i ddiddordeb yn y maes ers blynyddoedd gan mod i wedi gorfod cael triniaethau fy hun gan fod fi'n dioddef o PCOS [Polycystic Ovary Syndrome].
Mae hyn yn effeithio ar eich hormonau a'ch gallu i feichiogi, eich misglwyf, eich pwysau ac yn gallu achosi excess facial hair ac felly rwy wedi defnyddio'r driniaeth fy hun dros y blynyddoedd.
Ro'n i yn fy mhedwardegau canol ac, ar ôl colli nhad, wedi dechrau meddwl fod bywyd yn fyr. Er gwaetha'r ffaith mod i wedi cyrraedd pwynt yn fy ngyrfa lle o'n i'n llwyddiannus fel cyfarwyddwr teledu, roedd hwn yn rhywbeth o'n i wedi gweld y buddohono fy hun a wnes i benderfynu mynd amdani.
Proses hir
Dwi 'di gorfod gwneud sawl arholiad... Roedd 'na lot o anatomy a physiology, a lot o ffiseg, oedd bach yn annisgwyl. Dwi byth eisiau gweld arholiad arall!
Ar ôl rheiny, gorfod cael fy nghofrestru gan Arolygaeth Iechyd Cymru, er mwyn medru cynnig gwasanaeth i'r cyhoedd. Mae'n bwysig fod pobl yn mynd at rywun sy'n gymwys, a diolch byth yng Nghymru, mae'n rhaid bod yn gymwys cyn medru agor clinig.
Mewn rhai rhannau o Loegr, 'da chi'n gallu mynychu cwrs un dydd a dechrau fory! Felly yng Nghymru, os 'da chi'n mynd at rywun am driniaeth, 'da chi'n lot saffach.
Mae'r laser dwi'n ei ddefnyddio yn un arbenigol wrth reswm. Laser platform 'da ni'n ei alw ac mae'n un safon meddygol gyda'r gallu i gynnig lot o wahanol driniaethau.
Felly mae'n medru gwaredu tatŵs, blew, acne, rosacea... mae'n gwneud pob dim, ac yn edrych 'chydig bach fel R2D2 o Star Wars!
Mae cynnydd yn y nifer o driniaethau acne a rosacea siŵr o fod oherwydd diet neu'r pethau mae pobl yn ei roi ar y croen.
Yn y diwedd byddan nhw'n cyrraedd y pwynt lle dydyn nhw ddim yn gallu gwisgo colur, a'u bod nhw'n teimlo bod eu croen yn llosgi, a dyna pan maen nhw'n dod yma i weld beth fedrwn ni wneud i helpu.
Ond mae'n bwysig pwysleisio taw beth dwi'n ei wneud fan hyn yw trin y symptomau, ond fedra'i ddim trin be' 'di gwraidd y broblem, dim ond cynnig cyngor a chymorth ar ddiet ac wedyn gweithio o'r ddau gyfeiriad i geisio gwella'r broblem.
Un peth sy'n mynd yn fwyfwy poblogaidd ydy tynnu tatŵs. Yn anffodus dydi tatŵs ddim i fod i ddod i ffwrdd felly os 'da chi isho tynnu tatŵ mae'n broses hir a phoenus. Ond drwy lwc, ma' 'da fi hufen anaesthetig sydd wedyn yn gwneud y broses yn bearable.
Gwyliwch yr haul... a'r cymylau!
Petai'n rhaid i mi roi un darn o gyngor i bawb ar y ffordd orau o ofalu am eich croen, yna SPF [Sun Protection Factor] ydy'r peth pwysicaf fedrwn ni ei wneud ar gyfer ein croen. Nid jest yn yr haf - mae angen SPF ar bawb drwy'r flwyddyn.
Mae UVb yn effeithio'r croen drwy wneud i ni losgi pan mae'r haul yn gryf, ond mae UVa yna drwy'r flwyddyn, hyd yn oed pan mae'n gymylog. Hwnna sy'n gwneud i'n croen ni heneiddio, yn achosi i'r croen ddirywio, a hwnna sy'n rhoi canser y croen i ni.
Rwy'n gwisgo ffactor 50 pob dydd ac mae'n bwysig cofio gwneud hyn, hyd yn oed os nad ydych chi'n gorwedd yn yr haul. Mae'n bwysig gwisgo SPF uchel a'i roi 'mlaen yn rheolaidd.