Llywodraeth yn cefnogi'r cais i gynnal Cwpan y Byd 2030

  • Cyhoeddwyd
cwpan y bydFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth y DU yn barod i roi cefnogaeth lawn i unrhyw gais gan y 'gwledydd cartref' i gynnal Cwpan y Byd 2030.

Ar hyn o bryd mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth yn ystyried cyflwyno cais ar y cyd i gynnal un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd.

Yn ôl Cadeirydd CBDC, Jonathan Ford, nid oes disgwyl penderfyniad pendant tan "ymhell i mewn i 2019".

Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May: "Mae'r penderfyniad i wneud cais yn nwylo'r cymdeithasau pêl-droed wrth gwrs, ond os bydd cais yn cael ei gyflwyno, yna gallant ddibynnu ar gefnogaeth lawn gan y llywodraeth".

Mae'r corff rheoli UEFA eisoes wedi dweud y bydden nhw hefyd yn cefnogi cais o'r fath.

Bydd Cwpan y Byd 2022 yn cael ei gynnal yn Qatar, gyda'r gystadleuaeth yn 2026 yn cael ei chynnal ar y cyd gan yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico.