Ceidwadwyr Cymreig yn galw am etholiad Cynulliad brys
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad wedi galw am etholiad cynulliad brys yn ystod ei araith yng nghynhadledd y blaid Geidwadol yn Birmingham ddydd Llun.
Ar ôl penderfynu ar olynydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bydd pob un o'r pleidiau o fewn y cynulliad wedi newid eu harweinydd ers etholiad 2016.
Mae Paul Davies AC, a ddaeth yn arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad ym mis Medi, yn credu fod y newidiadau hyn yn ddigon o reswm i gynnal etholiad arall.
Soniodd Mr Davies hefyd am ei barodrwydd i gydweithio â Phlaid Cymru pan fo hynny'n bosib.
Dechreuodd y cyfnod enwebu ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru yn swyddogol ddydd Iau, gyda Mark Drakeford, Eluned Morgan a Vaughan Gething yn gobeithio dod yn Brif Weinidog.
Mae'n rhaid i ddau draean o Aelodau Cynulliad bleidleisio o blaid cyn y bydd modd cynnal etholiad brys.
'Barod am y frwydr'
Dywedodd Mr Davies fod gan bobl Cymru yr hawl i gael "dweud eu dweud" gan na fydd "mandad i lywodraethu" gan y Prif Weinidog newydd, "a dim ond etholiad cynulliad all sicrhau hynny".
Ychwanegodd fod y Ceidwadwyr Cymreig yn "barod am y frwydr ar gyfer dyfodol y genedl".
Er hynny, gwrthododd Prif Weinidog y DU, Theresa May, yr alwad mewn cyfweliad yn ddiweddarach.
Dywedodd wrth ITV Cymru bod angen canolbwyntio ar Brexit yn hytrach nag etholiad.
"Dwi'n meddwl ar hyn o bryd y dylen ni fod yn canolbwyntio ar gael y cytundeb Brexit iawn... Dyna sydd yn niddordebau'r wlad, nid etholiad brys."
Wrth gyfeirio at arweinyddiaeth Plaid Cymru, galwoddd Mr Davies ar Adam Price i beidio â chefnogi llywodraeth Lafur arall ym Mae Caerdydd.
Yn ôl Mr Davies: "Mae'r neges yn glir - fyddwn ni byth yn cytuno ar bob dim, ond lle fedrwn ni gydweld, beth am weithio gyda'n gilydd er lles pobl Cymru a sicrhau'r newid y mae Cymru ei angen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd20 Awst 2018