Ffenestr yn cofio croeso pentrefwyr i 40 o ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd
Mae ffenestr liw wedi cael ei dadorchuddio yn un o ysgolion cynradd Sir Gâr i gofio am ffoaduriaid o Wlad Belg a gafodd loches yn y pentref yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Disgyblion Ysgol Gynradd Llansteffan wnaeth ddylunio'r ffenestr, ac fe ganodd y plant anthem Gwlad Belg - La Brabançonne - mewn seremoni i'w dadorchuddio yn yr ysgol.
Fe ddaeth rhyw 250,000 o Felgiaid i Brydain i ddianc rhag y brwydro.
Cafodd rhyw 40 o ffoaduriaid loches ym Mhlas Llansteffan, ger Caerfyrddin.
Dywedodd yr hanesydd lleol, Eiluned Rees mai "trwy hap a damwain" y gwnaeth hi ailddarganfod yr hanes am y Belgiaid a ddaeth i'r sir.
"O'n drueni mawr bod y bobl wedi mynd yn angof," meddai.
"O'dd y pentref wedi neud tipyn o effort i ddisgw'l ar eu hôl nhw. O'dd e ddim yn bentre' cyfoethog ond o'n nhw 'di neud popeth allen nhw i groesawu'r Belgiaid yma."
Dywedodd bod pob un wedi gadael Llansteffan erbyn Mawrth 1916 a bod rhai wedi symud i'r cymoedd i gael gwaith parhaol yn y pyllau glo i gynnal eu teuluoedd.
Roedd pobl yr ardal wedi darparu bwyd, dillad, glo a dodrefn i'r unigolion a gafodd eu cartrefu dros dro yn y plasty gwag.
"Daethon nhw heb ddim byd. O'n nhw 'di gorfod ffoi - yn eu plith nhw wedyn o'dd rhai milwyr o'dd wedi ca'l eu hanafu. A'th rheiny'n ôl i ymladd yn y fyddin.
"O'dd e'n siŵr yn brofiad difrifol gawson nhw - wedi ffoi o'u gwlad, wedi gorfod croesi mewn bade o dan sang y Germaniaid.
"O'n nhw'n dod i wlad ddiarth, o'n nhw'n cael eu dosbarthu a ddim amcan 'da nhw ble o'n nhw'n mynd, a sdim shw' beth bod nhw 'di cl'wed sôn am Lansteffan erioed. A fydden nhw'm yn gwybod shwd groeso gele nhw."
Dywedodd Ms Rees bod yr hanes yn angof dan gysgod erchyllterau'r Ail Ryfel Byd, ond bod hi'n "bwysig ofnadwy" i'w gofnodi.
Wrth ganu anthem Gwlad Belg yn y seremoni ddadorchuddio ddydd Llun, roedd y disgyblion yn dilyn esiampl plant a gafodd eu dysgu i'w chanu er mwyn croesawu'r ffoaduriaid ddegawdau yn ôl.
"O'dd e siŵr o fod yn deimlad rhyfedd iawn i glywed y plant yn canu'r Brabançonne - bues i jest mewn dagrau yn hunan nawr," meddai Ms Rees.
"Ond iddyn nhw o'dd e'n siŵr yn deimlad hyfryd i sylweddoli bod nhw 'di neud yr ymdrech yna i groesawu nhw."