Apiau paru'n cyfrannu at fwy o achosion o heintiau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae clinigau iechyd rhyw yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda'r cynnydd yn nifer yr achosion o heintiau, yn ôl Llywydd Cymdeithas Iechyd Rhyw a HIV Prydain.
Dywed y Dr Olwen Williams fod y defnydd o apiau paru yn gwaethygu'r broblem, a bod angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy o arian mewn gwasanaethau atal afiechydon.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi comisiynu adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd rhyw yng Nghymru yn ddiweddar, a'u bod wrthi'n gweithredu argymhellion yr adolygiad hwnnw "yn llawn".
Rhwng 2016 a 2017 roedd yna gynnydd o 53% yn nifer yr achosion newydd o siffilis yng Nghymru, a chynnydd o 21% yn nifer yr achosion newydd o gonorrhea, yn ôl ystadegau diweddara' Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywed Dr Williams, sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, nad ydy hi erioed wedi gweld gymaint o achosion o siffilis a gonorrhea.
Mae'r patrwm yng Nghymru, meddai, yn debyg ar draws y DU ac mae pobol o bobl oedran yn cael eu heffeithio.
"Mae'r ffordd ma' pobol yn cyfarfod ei gilydd wedi newid," dywedodd wrth raglen Post Cyntaf.
"Mae defnyddio hook-up apps a dating apps yn un peth. 'Da ni hefyd yn gw'bod bod pobol yn llai cytûn i ddefnyddio condoms.
"Hefyd ma'r anhawster sydd gynnon ni i gael gafael ar bobol sydd e'lla wedi heintio rhywun, drwy'r ffaith bod nhw'n fwy anonymous ag oeddan nhw pan oeddan nhw ddim ar ap."
Ychwanegodd bod anawsterau cael apwyntiad meddygol o fewn 48 awr o gael rhyw anniogel yn arwain at ledaenu heintiau.
Rhwng 2011 a 2016 fe ddyblodd nifer y bobl a aeth i glinigau iechyd rhyw yng Nghymru - o 86,000 i 176,000 - ac mae Dr Williams yn galw am fuddsoddi mwy o arian yn y maes er mwyn cyflogi mwy o staff a darparu mwy o wasanaethau.
Mae hefyd yn galw am weithredu argymhelliad yn Adolygiad Iechyd Rhyw diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu pecynnau profi ar-lein.
Mae eisoes yn bosib yn Lloegr a'r Alban i bobl archebu pecynnau prawf HIV, gonorrhea a chlamydia ar-lein i'w defnyddio yn eu cartrefi eu hunain a'u dychwelyd trwy'r post a chael canlyniadau heb orfod mynd i glinig neu feddygfa.
"Mae hwnna'n rwbath neith wahaniaeth mawr i bobol sydd mewn ardaloedd gwledig neu'n methu dod i fewn i'n cliniga' ni, ac wrth gwrs mae o'n fwy anonymous bod nhw ddim yn gorfod mynd i fewn i weld doctor," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisoes wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer nifer o brosiectau gan gynnwys cynllun peilot ar-lein "sydd yn rhoi gwybodaeth, asesiad risg, pecynnau prawf iechyd rhyw a gwasanaeth cyfeirio pobl am driniaeth lle mae'n briodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2018
- Cyhoeddwyd30 Medi 2017