Express Motors: Dyn a thri mab yn euog o dwyllo
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar dyn wedi eu cael yn euog o dwyllo degau o filoedd o bunnoedd o arian cyhoeddus drwy hawlio taliadau am deithiau ffug.
Fe wnaeth rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon, a fu'n ystyried y rheithfarn am dros dri diwrnod, benderfynu fod Eric Wyn Jones, 77 oed, a thri o'i feibion yn euog o'r twyll.
Roedd Jones a'i feibion, Ian Wyn Jones, Keith Jones a Kevin Wyn Jones wedi gwadu'r cyhuddiadau'n eu herbyn.
Clywodd y llys fod pasiau bws i bobl dros 60 oed - y rhan fwyaf o'r rhain wedi eu colli neu eu dwyn - wedi cael eu defnyddio ar fysiau dros 80,000 o weithiau yn ystod cyfnod o ddwy flynedd.
Cafodd un o'r tocynnau ei ddefnyddio 23,000 o weithiau.
Roedd y cwmni wedyn yn hawlio arian am y teithiau ffug gan Gyngor Gwynedd, a oedd wedyn yn hawlio'r arian yn ôl gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun consesiynau teithio.
'Un ddedfryd briodol'
Wedi cyhoeddi'r rheithfarnau, dywedodd y Barnwr Timothy Petts: "Rydych wedi eich cael yn euog o droseddau difrifol yn ymwneud â thwyllo'r awdurdod lleol drwy gyflwyno ceisiadau ffug ac o gynllwynio i wyngalchu arian o Express Motors.
"Mae'n glir mai dim ond un ddedfryd all fod yn briodol am droseddu o'r math yma, a dedfryd o garchar yw hynny."
Cafodd y dedfrydu ei ohirio am y tro.
Bydd y pedwar dyn, ynghyd â phumed dyn oedd wedi pledio'n euog yn flaenorol, yn cael eu dedfrydu ar ddyddiad i'w bennu.
Adolygu'r system
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Roedd hon yn achos difrifol iawn a oedd yn cynnwys symiau sylweddol o arian yn cael ei gymryd o'r pwrs cyhoeddus trwy dwyll.
"Fe wnaeth y Cyngor ymchwilio ar unwaith pan ddaeth amheuon o anghysondebau posib yng nghwmni Express Motors ynghylch taliadau bws consesiynol. O ganlyniad i'r ymchwiliad cychwynnol hwn, fe wnaethom gyfeirio'r mater at Heddlu Gogledd Cymru.
"Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu gweithdrefnau ar gyfer cofnodi a hawlio tocynnau bws consesiynol ar gyfer holl awdurdod lleol. Rhagwelir y bydd y gweithdrefnau newydd ar gyfer Cymru gyfan yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol agos."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd19 Medi 2018