Beth yw Gorsedd y Beirdd?
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhan annatod o Eisteddfod Genedlaethol Cymru - ond beth yw Gorsedd y Beirdd?
Yn fras, cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd (neu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain).
Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd.
Gelwir aelodau'r Orsedd yn dderwyddon ac mae gan bob un ei enw barddol unigryw ei hun.
Meini'r Orsedd
Mae Cylch yr Orsedd wedi ei ffurfio o 12 maen. Y garreg fawr wastad yng nghanol y cylch yw'r Maen Llog, a dyma lwyfan yr Archdderwydd yn ystod y seremonïau urddo.
Fe welir y meini mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r dref neu'r ardal honno. Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.
Yr Archdderwydd
Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Mae'n cael ei ethol gan yr Orsedd am gyfnod o dair blynedd.
Dim ond Prifeirdd a Phrif Lenorion all ddal swydd archdderwydd. Mae'n gyfrifol am arwain seremonïau'r Orsedd gan gynnwys seremonïau'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.
Ceidwad y Cledd
Mae'r cleddyf yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremonïau'r Eisteddfod.
Ceidwad y Cledd sy'n gofalu ar ôl y Cleddyf. Gan ei fod yn gleddyf heddwch, nid yw byth yn cael ei ddadweinio'n llwyr.
Y Wisg Wen
Enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod sy'n gwisgo'r wisg wen. Gallwch adnabod enillwyr y Gadair neu'r Goron gan eu bod yn gwisgo llawryf am eu penwisg.
Y Wisg Werdd
Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiad. Mae enillwyr cadair a choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gwisgo'r wisg werdd.
Y Wisg Las
Mae'r wisg las ar gyfer rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i'w bro neu i'r genedl a thrwy anrhydedd ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth neu'r Cyfryngau.
Y Ddawns Flodau
Dyma un o ddefodau mwyaf poblogaidd y Brifwyl. Mae'r ddawns yn cyfleu casglu blodau'r maes ac yn cael ei pherfformio gan ferched ysgol lleol. Cyfunir y ddawns gyda chyflwyniad y Flodeuged wrth i ddwy o'r dawnswyr ychwanegu'u blodau nhw at y tusw.
Y Corn Gwlad
Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan bwysig o ddefodaeth yr Orsedd ers yr 1860au. Gallwch glywed y ffanffer cyfarwydd pan mae enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod yn cael eu galw i'r llwyfan.
Cyflwynydd y corn hirlas
Yn ei chlogyn coch hardd a phenwisg o lês aur, un o famau bro'r Eisteddfod sy'n cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd fel symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd. Mae hi'n cael ei hebrwng gan ddau facwy.
Cyflwynydd y flodeuged a chynnyrch y meysydd
Tusw o flodau'r maes sy'n symbol o dir a phridd Cymru yw'r Flodeuged. Mae merch ifanc o fro'r Eisteddfod yn ei chyflwyno i'r Archdderwydd fel symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod. Mae dwy lawforwyn yn cerdded bod ochr iddi.
Cychwyn yr Orsedd
Ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain, y sefydlwyd yr orsedd yn 1792 gan ŵr o'r enw Iolo Morganwg a oedd yn awyddus i roi gwybod i'r byd bod 'na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y Cymry a'r diwylliant Celtaidd.
Ar ddechrau'r 19eg ganrif y cysylltwyd Gorsedd y Beirdd yn swyddogol â'r Eisteddfod a hynny mewn Eisteddfod yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae'r cysylltiad yn parhau hyd heddiw.
Y bardd Cynan oedd yn brif gyfrifol am lunio seremonïau'r Coroni a'r Cadeirio. Roedd yn Archdderwydd ddwywaith, ond pan ddaeth yn Gofiadur yn yr 1930au y dechreuodd ddiwygio'r seremonïau, i'w gwneud yn fwy urddasol. Cyflwynodd elfennau newydd fel y Ddawns Flodau.
Enwogion yr Orsedd
Mae nifer o enwogion wedi eu hurddo i'r orsedd, yn cynnwys: y cyflwynydd radio Huw Stephens, y gantores Caryl Parry Jones, y sêr Hollywood Ioan Griffiths a Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, yr athletwraig Tanni Grey-Thompson, y cogydd a'r cyflwynydd teledu Bryn Williams, y cyflwynydd Alex Jones, chwaraewyr rygbi Cymru George North a Jamie Roberts, a chyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams.