Galw am goesau prosthetig arbenigol am blentyndod 'llawn'
- Cyhoeddwyd
"Mae ganddi gymaint o nerth, ac mae hi mor gry', fel nad ydy o wedi ei dal hi 'nôl mewn llawer o ffyrdd."
Mae'n amlwg bod Rebecca Roberts yn dotio at Elizabeth, ei merch sy'n bedair oed.
Ond mae blynyddoedd cynnar Elizabeth wedi bod yn heriol, ar ôl cael ei geni â chyflwr fibular hemimelia, ac yn flwydd oed, cael llawdriniaeth i dynnu ei choesau.
Ers hynny, mae'n gwisgo coesau prosthetig, ond mae ei mam yn galw ar y llywodraeth i ariannu coesau chwaraeon arbenigol er mwyn i blant gael plentyndod "llawen a llawn".
'Effaith anferthol'
"Roedd ei datblygiad hi fymryn yn arafach na phlant eraill o'r un oed," meddai Rebecca, sy'n byw ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.
"Ond pa bynnag her mae hi'n dderbyn, mae hi'n ffeindio'i ffordd hi o wneud pethau.
"Dydy hi ddim yn swil o gwbl! Weithiau, os dwi'n cerdded ac mae hi'n disgyn dipyn bach ar fy ôl i, dwi'n clywed llais bach yn dweud 'Mummy, wait for me!'
"Mae hynna'n fy atgoffa i fod rhaid i mi fynd ar ei chyflymder hi - a fel 'na mae pethau i fod."
Mae'r gwasanaeth iechyd yn darparu coesau prosthetig i gleifion, ond mae'r rheiny yn medru bod yn drwm, yn ôl Rebecca.
Ond mae modd cael coesau prosthetig chwaraeon arbenigol er mwyn hwyluso symudiad y corff - fel y blades sy'n cael eu defnyddio gan rai parathletwyr.
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid gwneud cais arbennig i gael coesau o'r fath am ddim ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae'r sefyllfa'n wahanol yn Lloegr, yn dilyn buddsoddiad o £1.5m yn gynharach eleni mewn cronfa i ddarparu'r cyfrapar diweddaraf i blant a phobl ifanc sydd ei angen.
Hefyd o ddiddordeb
I Rebecca, sy'n deisebu Llywodraeth Cymru dros y mater, mae angen newid y drefn yng Nghymru hefyd.
"Fe all coesau prosthetig arbenigol gael effaith anferthol ar fywyd plentyn - a dim ond un plentyndod 'dan ni'n ei gael, ac fe ddylai fo fod yn gyfnod llawen a llawn.
"'Dan ni ddim yn gofyn am filiynau.
"Y cwbl mae'r ddeiseb yn gofyn am ydy bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael specialist sport prosthetics heb orfod gwneud cais amdanyn nhw - a'u bod nhw'n rhywbeth sydd ar gael yn awtomatig petai rhieni a meddygon a'r plentyn ei hun yn meddwl y buasen nhw'n elwa."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "ystod eang o gyfapar prosthetig yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru" ond nad ydy cyfarpar prosthetig chwaraeon i blant yn cael ei ariannu "ar hyn o bryd".
Yn ôl llefarydd, mae'r llywodraeth yn "cydnabod pwysigrwydd" y cyfarpar i "helpu pobl ifanc fod yn actif" a'u bod yn "ystyried" sut i'w darparu.
Ychwanegodd: "Os ydy tîm clinigol unrhyw berson yn credu bod rhesymau eithriadol dros ddarparu offer arall, yna mae modd gwneud Cais Ariannu Claf Unigol (IPFR)."
Gofyn am 'hawl'
Neges Rebecca i'r llywodraeth yw na fyddai darparu'r cyfarpar yn ergyd ariannol drom - yn enwedig gan nad oes llawer yng Nghymru sydd yn yr un gwch ag Elizabeth.
"Does 'na ddim lot ohonyn nhw, dydy o ddim am gostio miliynau i'r llywodraeth o gwbl.
"'Dan ni jyst yn gofyn iddyn nhw ei wneud o'n hawl i'r plant yna gael coesau arbenigol os ydyn nhw'n dymuno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018