Metro De Cymru: Cyllid o £119m gan yr Undeb Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
Metro
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyllid o'r Undeb Ewropeaidd yn cyfrannu at waith yr ail gam o ddatblygu Metro De Cymru

Mae prif weinidog Cymru wedi cyhoeddi bod £119m o gyllid o'r Undeb Ewropeaidd wedi'i sicrhau i ddatblygu Metro De Cymru.

Bydd y buddsoddiad yn ariannu ail gam y datblygiad, sy'n cynnwys gwaith ar reilffyrdd Merthyr, Treherbert, Aberdâr a Rhymni.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud cais am £40m arall gan yr UE i gefnogi gwelliannau i seilwaith y Metro.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y datblygiad yn "rhan bwysig o'n huchelgais fel llywodraeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus".

Bydd disgwyl i ail gam Metro De Cymru gael ei gwblhau erbyn 2023.

Ffynhonnell y llun, TfW
Disgrifiad o’r llun,

Mae ail gam y datblygiad yn gobeithio creu cysylltiad gwell o orsafoedd blaenau'r cymoedd i Fae Caerdydd

Bwriad ail gam y datblygiad yw gweithio tuag at gynnig gwasanaethau cyflymach a mwy rheolaidd rhwng gorsafoedd blaenau'r cymoedd a Bae Caerdydd

Bydd y buddsoddiad gan yr UE yn cyfrannu at wella'r seilwaith, moderneiddio'r gorsafoedd a dyblu'r nifer o drenau i orsafoedd y cymoedd o ddwy yr awr i bedair.

Cwmni KeolisAmey enillodd y cytundeb £5bn i redeg gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a Metro De Cymru am 15 mlynedd.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd dros yr Economi a'r Seilwaith bod y Metro yn "nodi datblygiad sylweddol tuag at ein cynlluniau ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd modern, effeithiol sy'n edrych at y dyfodol".

"Rydyn ni wedi gwrando ar bryderon teithwyr ac wedi sicrhau bod eu hanghenion yn ganolog i'n cynlluniau ynghylch y contract rheilffyrdd newydd a Metro De Cymru," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod hefyd wedi gwneud cais am £40m arall o leiaf o gyllid yr UE i gefnogi gwelliannau i seilwaith y Metro a fydd "gobeithio wedi'i sicrhau erbyn diwedd 2018".

Sut fydd yr arian yn cael ei wario?

£21.1m i ddyblu'r trac a gwella gorsafoedd rhwng Merthyr Tudful, Phentrebach, Ynysowen a Mynwent y Crynwyr.

£27.4m yn cael ei wario ar blatfformau newydd a dyblu'r trac ar reilffordd Treherbert, gan wella'r seilwaith ar hyd gorsafoedd Ynyswen, Treorci, Llwynypia a Dinas.

£23m i ddyblu'r trac i ganiatáu i'r gwasanaeth gael ei gynyddu i bedwar trên yr awr o Abercynon i Aberdâr.

£19.5m i reilffordd Rhymni i gynnal gwaith dyblu'r trac a chaniatáu i'r gwasanaeth gael ei gynyddu i bedair trên yr awr a phlatfformau newydd.

£27.3m brynu tir ac adeiladu depo newydd yn Ffynnon Taf.