O Jamaica i Bort Talbot: "Pwysig cofnodi eu lleisiau"
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect arbennig wedi cael ei greu sy'n dweud hanes cymuned o Jamaica a allfudodd i Gymru, gan ymgartrefu ym Mhort Talbot.
Daeth nifer o bobl i'r ardal yn y 50au a'r 60au a bellach mae cymuned gref o drigolion o dras Jamaicaidd yn byw yn y dref.
Syniad Faith Walker, sy'n ferch i rieni o Jamaica a setlodd ym Mhort Talbot, ydy arddangosfa Just Ah Likkle Piece of Jamaica Inna Port Talbot.
Roedd hi eisiau sicrhau fod straeon ei chyn-deidiau yn cael eu rhoi ar gof a chadw.
"Mae gennym ni nosweithiau o'r enw Nine nights, a phan fu farw fy llysdad, daeth y menywod i gyd draw i adrodd straeon," meddai.
"Meddyliais i y byddai hi'n hyfryd i gofnodi hwnnw. Roedd gen i straeon fy mam, ond nid straeon pawb arall o Jamaica a ymgartrefodd ym Mhort Talbot.
"Mae'r hynafiaid yn ein gadael ni erbyn hyn ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofnodi eu lleisiau. Mae gennym ni luniau, ond mae Jamaica i'w glywed yn eu lleisiau.
"Mae iaith Patois fel y Gymraeg mewn ffordd - roedd pobl yn eu stopio rhag ei siarad, ac roedd rhaid siarad y Queen's English. Mae hi'n bwysig cofnodi'r iaith ar gyfer y cenedlaethau i ddod."
Mae nai Faith, Cassius Walker-Hunt, yn falch iawn o'i wreiddiau. Mae'n cofio'r hanes oedd yn cael ei hadrodd ynglŷn â sut ddaeth ei Fam-gu draw i Gymru gyntaf.
"Pan o'dd Mam-gu eisiau dod i Gymru, roedd ei rhieni eisiau arian. Roedd ganddyn nhw lot o honeybees - felly 'nathon nhw werthu'r gwenyn a mul er mwyn iddi gael arian i fynd mas i Gymru.
"Dyna'r stori ma'n nhw o hyd yn ei ddweud wrtha i. Pan es i mas yna, 'nes i weld y gwenyn sydd dal yna a dod â peth o'r mêl yn ôl adref i'r teulu."
Pan aeth draw i Kingston i ymweld, roedd o'r diwedd yn gallu gweld pam fod ei berthnasau yn dweud fod Cymru yn debyg i Jamaica.
"Ma'n wlad fel Cymru - lot o wyrdd, traethau, mynyddoedd. O'dd e fel cartref! O'n i'n gallu gweld sut oedd Mam-gu a Tad-cu fi yn hoffi Cymru. Mae e fel Cymru poeth! Oedden nhw'n dweud fod Jamaica fel Cymru - pan o'n i mas 'yna, o'n i'n gallu gweld hynny!"
Mae hefyd yn gweld tebygrwydd rhwng pobl Jamaica a Chymru - personoliaeth laid-back trigolion y ddwy wlad, ac yn arbennig eu talent i wneud cawl!
Mae Faith hefyd yn cytuno fod llawer o debygrwydd rhwng trigolion y ddwy wlad.
"Mae'r Cymry yn fierce, fel y Jamaicans! Ac wrth gwrs yn angerddol iawn hefyd.
"Mae cariad yn bwysig iawn i bobl Jamaica - mae cariad yn aml yn cael ei estyn tu fas i'r teulu, ac i'r gymuned - ac fe gafodd y bobl ddaeth yma o Jamaica groeso a chariad gan y Cymry yma. Ac mae'r cysylltiad cryf dal yna."
Mae arddangosfa Just Ah Likkle Piece of Jamaica Inna Port Talbot i'w gweld yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Port Talbot, 4-6 Hydref