Cerddoriaeth ar iard yr ysgol yn hwb i'r Gymraeg?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cerddoriaeth ar yr iard yn hwb i'r Gymraeg?

Yn dilyn pryderon am ddirywiad yn nifer y disgyblion sy'n siarad Cymraeg ar iard yr ysgol, mae rhai ysgolion wedi mabwysiadu cynllun i geisio atal hyn rhag digwydd.

Fel rhan o siarter iaith mewn ambell i ysgol, mae cyfleusterau bellach wedi eu darparu, sy'n galluogi disgyblion i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn ystod amseroedd egwyl.

Un o'r ysgolion sydd wedi mabwysiadu'r syniad yma yw Ysgol Bro Lleu ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd.

Ers dechrau'r tymor ysgol newydd eleni, mae system sain newydd wedi ei gosod ar draws buarth yr ysgol, er mwyn i'r disgyblion allu gwrando ar artistiaid amlycaf Cymru yn ystod y dydd.

Dywedodd prifathro Ysgol Bro Lleu fod gan yr ysgol ymgyrch i drio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a faint o blant sy'n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

Dywedodd Gerallt Jones hefyd fod y cynllun newydd wedi "profi'n boblogaidd gyda'r disgyblion, eu rhieni a'r staff", a'u bod eisoes wedi gweld effaith bositif ar y defnydd o Gymraeg ar iard yr ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Bro Lleu wrth eu bodda gydag artistiaid fel Yws Gwynedd

Dywedodd un o ddisgyblion blwyddyn 5 Ysgol Bro Lleu wrth BBC Cymru Fyw, nad oedd "lot o blant yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg cyn i'r uchelseinyddion gael eu gosod".

Ond fe ychwanegodd y disgybl: "Ond ers i'r system newydd ddod i fewn mae'r plant yn siarad lot fwy o Gymraeg."

Mae'r disgyblion ar y cyd â staff yr ysgol wedi datblygu rhestr chwarae eang sy'n cynnwys artistiaid fel Yws Gwynedd, Sobin a'r Smaeliaid a Syr Bryn Terfel.

Dylanwad y Saesneg

Eglurodd y prifathro, Mr Jones: "Mae cymaint o bethau'n mynd allan ar YouTube ac yn y blaen yn Saesneg fel mae cymdeithas y tueddu i droi i'r Saesneg.

"Mae o 'chydig bach yn wahanol i gael ysgol lle mae cerddoriaeth yn chwarae tu allan, wedyn maen nhw'n weld o fel rhywbeth reit cool i gael.

"Ac wrth gwrs, gan ein bod ni yn Nyffryn Nantlle, ardal Gymraeg iawn, dwi'n meddwl fod pawb yn awyddus i weld o'n llwyddo."

Eu gobaith yw parhau i weld llwyddiant y cynllun, ac efallai edrych at ddatblygu'r cynllun ar draws mwy o ysgolion Cymru.