Hanner Marathon Caerdydd yn 'hwb i fusnesau'r ddinas'

  • Cyhoeddwyd
Hanner Marathon CaerdyddFfynhonnell y llun, Run 4 Wales

Gyda'r disgwyl y bydd 80,000 o bobl yn tyrru i'r brifddinas i wylio Hanner Marathon Caerdydd, mae busnesau'r ardal yn gobeithio elwa o benwythnos prysur.

Bydd 25,000 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras ddydd Sul - ras redeg fwyaf y DU ar wahân i Farathon Llundain a'r Great North Run.

Mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn awgrymu bod £2.3m wedi ei wario yn y ddinas dros benwythnos y ras y llynedd.

Roedd yr amcangyfrif yn cynnwys gwariant ar fwyd, diod, llety, costau teithio a siopa yn ogystal â'r ffi am gymryd rhan yn y ras.

Yn ôl un o awduron yr adroddiad, Dr Andrea Collins mae gwerth y gwariant i'r economi'n "uwch o lawer na'r ffigwr yma", wrth i'r arian gylchdroi a chreu elw i fusnesau eraill.

'Llyfr apwyntiadau'n llawn'

Mae James Ogle yn gweithio fel therapydd chwaraeon ers 10 mlynedd ac yn dweud bod y galw am wasanaethau o'r fath wedi cynyddu'n raddol dros y blynyddoedd oherwydd Hanner Marathon Caerdydd.

Dywedodd ei fod yn cael llawer o alwadau yn y ddau ddiwrnod cyn y ras a bod ei lyfr apwyntiadau yn llawn.

"Mae llawer o'r bobl sy'n dod i 'ngweld am driniaeth naill ai'n ganlyniad o gael anaf neu'n rhan o'r paratoadau olaf ar gyfer y ras," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dyddiau olaf cyn y ras yn rhai prysur i'r therapydd chwaraeon James Ogle

Mae Nick Newman, cadeirydd Fforwm Tafarnwyr Caerdydd, yn rhagweld rhwng tair a phedair gwaith yn fwy o fusnes na'r arfer ar ddydd Sul y penwythnos yma.

"Dydy e ddim yr un fath â gêm, cyngerdd neu ddigwyddiad yn y stadiwm, ond mae'n dda i fusnesau ar ddiwrnod sy'n dawelach yn gyffredinol," meddai.

"Busnesau sy'n agosach at y llinell derfyn sy'n tueddu i wneud orau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae canol y ddinas yn fwy prysur na'r Bae, medd Karen Jones

Ond gyda nifer o strydoedd ar gau, dolen allanol, ac er mwyn osgoi'r torfeydd, mae rhai pobl yn penderfynu cadw draw o'r ddinas yn llwyr.

"Yn dre, ma'n fishi," meddai Karen Jones o gaffi Fabulous.

"Ma' pawb yn dod mewn ar ôl i'r marathon ddechre, ond yn y Bae mae'n dawel, achos dyw pobl ddim yn gwybod eu bod yn dal yn gallu trafeili rownd Caerdydd."

Mae un o siopau canol y ddinas yn bwriadu peidio agor ddydd Sul, sy'n golygu y bydd staff yn colli hanner diwrnod o gyflog.

Dywedodd Claire McCartney - perchennog Magic and Mayhem yn Arcêd y Castell - y bydd yn anodd i weithwyr gyrraedd y siop am fod ffyrdd ar gau ac yn sgil trafferthion parcio posib.

Ychwanegodd bod y siop wedi bod ar agor yn ystod digwyddiadau mawr, gan gynnwys ar ddiwrnod yr hanner marathon, ond "roedd hi mor dawel, doedd dim gwerth i ni fod yna".

Ffynhonnell y llun, Run 4 Wales

Dywedodd Ben Cottam o'r Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru bod cwmnïau llai wedi gweld effaith fawr yn sgil cynnal digwyddiadau mawr yn y ddinas - fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, ras hwylio'r Volvo Ocean Race a dathliadau buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France.

Ond mae'n dweud bod angen i fusnesau hefyd feddwl am "gynllunio'n well ar gyfer unrhyw effeithiau negyddol", ac iddyn nhw gael mwy o gefnogaeth i wneud hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau perthnasol i'w helpu i gefnogi busnesau i wneud y mwyaf o botensial digwyddiadau mawr a rheoli'r heriau yn eu sgil".