Uwch Gynghrair Lloegr: Tottenham Hotspur 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd yn parhau heb fuddugoliaeth yn yr Uwch Gynghrair y tymor yma ar ôl cael eu trechu mewn gêm agos yn erbyn Tottenham Hotspur yn Wembley.
Aeth Caerdydd ar ei hôl hi o fewn 10 munud, gydag Eric Dier yn rhwydo wedi i Joe Bennett lwyddo i atal peniad Davinson Sanchez.
Roedd yr Adar Gleision i lawr i 10 chwaraewr yn dilyn 58 munud, wedi i Joe Ralls weld cerdyn coch am dacl wael ar Lucas Moura.
Daeth yr ymwelwyr yn agos at ei gwneud yn gyfartal yn fuan wedi hynny wrth i Hugo Lloris wthio peniad y capten Sean Morrison ar y postyn, ond llwyddodd y tîm cartref i ddal eu gafael yn y triphwynt.