Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Havant & Waterlooville
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam yn parhau'n ddiguro ar y Cae Ras y tymor yma wedi iddyn nhw drechu Havant & Waterlooville brynhawn Sadwrn.
Aeth y Dreigiau ar y blaen ar ôl hanner awr, gydag ergyd Rekeil Pyke yn curo'r golwr Ben Dudzinski.
Dylai Pyke fod wedi dyblu'r fantais yn yr ail hanner, ond y tro yma llwyddodd Dudzinski i ddal ei afael ar ei ergyd.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Cymry'n aros yn y pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol.