Pro14: Scarlets 20-17 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Y Scarlets enillodd y frwydr rhwng rhanbarthau'r gorllewin yn Llanelli ddydd Sadwrn, gan drechu'r Gweilch o dri phwynt yn unig.
Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda chais gan Johnny McNicholl, ond fe wnaeth y Cymro Cory Allen ymateb yn fuan wedi hynny gyda chais i'r Gweilch.
Tro'r Gweilch i fynd ar y blaen oedd hi cyn hanner amser, gyda'u hasgellwr newydd George North yn croesi i'w gwneud yn 12-10 i'r ymwelwyr ar yr egwyl.
Fe darodd y Scarlets yn ôl ar ddechrau'r ail hanner wrth i'r maswr Rhys Patchell yn croesi am gais, ac fe wnaeth cicio cywir Leigh Halfpenny roi mantais o 20-12 i'r tîm cartref.
Ond daeth y Gweilch yn ôl unwaith eto gyda chais gan eu hasgellwr arall, Luke Morgan yn dilyn gwaith da gan Justin Tipuric.
Er iddyn nhw bwyso trwy gydol diwedd y gêm, ni lwyddodd yr ymwelwyr i dorri trwy linell amddiffynnol y Scarlets, gan sicrhau buddugoliaeth bwysig i'r tîm o Lanelli.