Gobeithio am statws gwarchodedig i Eirin Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Eirin
Disgrifiad o’r llun,

Mewn gerddi preifat yn unig mae Eirin Dinbych yn cael ei dyfu erbyn hyn

Daeth cannoedd o bobl i Ddinbych ddydd Sadwrn ddathlu ffrwyth hanesyddol, wrth i ymgyrchwyr ddisgwyl i glywed a fydd yn derbyn statws gwarchodedig Ewropeaidd.

Mae Gwledd Eirin Dinbych nawr yn ei 10fed blwyddyn.

Y gred yw bod Eirin Dinbych wedi dechrau cael ei dyfu gan fynachod yn y 13eg ganrif, fyddai'n ei wneud yn hŷn nac eirin Fictoria, a'r unig eirin sy'n dod o Gymru.

Ond wrth i dechnegau ffermio ddatblygu, cafodd nifer o berllannau Dyffryn Clwyd eu colli, ac mewn gerddi preifat yn unig mae'r ffrwyth yn cael ei dyfu erbyn hyn.

Mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth am y ffrwyth, mae Grŵp Eirin Dinbych wedi gwneud cais am statws gwarchodedig daearyddol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma'r un statws sydd gan gig oen a chig eidion Cymreig, a Halen Môn.

Disgrifiad,

Dywedodd Nia Williams y byddai statws gwarchodedig i'r eirin yn "bositif i'r dyffryn"

Dywedodd Nia Williams o Grŵp Eirin Dinbych eu bod yn gobeithio clywed erbyn diwedd y flwyddyn os yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus.

"Mae hyn â sgil-effeithiau positif ar gyfer y dyffryn - nid yn unig ar gyfer tyfu'r ffrwyth, ond hefyd fel cyrchfan twristiaeth," meddai.

"Bydd pobl wedi clywed am yr eirin, ac eisiau dod i ymweld â dyffryn ble mae eirinen mor unigryw yn gallu cael ei thyfu."

Roedd pryder yn gynharach yn y flwyddyn bod prinder o'r eirin ond yn dilyn apêl, dywedodd Ms Williams bod nifer o gynhyrchwyr wedi dod i'r fei.

"Yn ystod y cynhaeaf roedd prinder o eirin, a doedden ni ddim yn siŵr fydden ni'n gallu cynnal y digwyddiad," meddai.

"Ond diolch i'r apêl ym mis Awst daeth llwyth o eirin o wahanol ardaloedd yn Nyffryn Clwyd, ac ni wedi bod yn cael cymaint o lwyddiant."