Dau ddyn yn marw ar ôl rhedeg Hanner Marathon Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Hanner Marathon Caerdydd

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod dau ddyn, a fu'n rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, wedi marw.

Deallir bod y dynion, un yn ei ugeiniau a'r llall yn ei dridegau, wedi cael ataliad ar y galon wedi iddynt groesi'r llinell derfyn.

Dywedodd prif weithredwr Run 4 Wales Matt Newman: "Mae hon yn drasiedi ofnadwy i'r teuluoedd. Mae'n cydymdeimlad dwysaf gyda'r teuluoedd a ffrindiau.

"Mae pob un sy'n gysylltiedig â'r ras wedi'u syfrdanu.

"Nhw yw'r ddau gyntaf i farw yn hanes y ras a oedd eleni yn cael ei chynnal am y pymthegfed tro."

Cafodd y ddau ddyn eu trin ar y linell derfyn cyn iddynt gael eu cludo i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.

Dywed Heddlu'r De bod perthnasau'r ddau wedi cael gwybod.

Roedd 25,000 yn rhedeg yr hanner marathon eleni.