Llywodraeth leol yn wynebu 'dibyn ariannol difrifol'

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau

Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn wynebu "dibyn ariannol difrifol" yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Ddydd Mawrth fe fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi faint o arian y bydd awdurdodau lleol yn ei dderbyn o'r gyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae yna rybudd y gallai rhai cynghorau fod yn "anghynaladwy" heb ragor o arian.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn deall y sefyllfa anodd, ac mai llywodraeth leol "fyddai'r rhai cyntaf yn y ciw" os ddaw arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai awdurdodau lleol yn derbyn £84m yn ychwanegol mewn grantiau.

'Torri gwasanaethau'

Bydd Alun Davies, yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, yn cyhoeddi'r setliad ariannol ar gyfer yr awdurdodau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddi cyllideb yr wythnos diwethaf, lle cafodd yr arian craidd ar gyfer llywodraeth leol ei dorri o 2%.

Mae'r setliad yn cynrychioli y rhan fwyaf o'r arian y mae cynghorau yn eu derbyn, ond maen nhw hefyd yn codi arian trwy'r dreth cyngor ac maen nhw hefyd yn derbyn incwm o daliadau a ffioedd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alun Davies yn cyhoeddi'r setliad ariannol ddydd Mawrth

Yn ôl Debbie Wilcox, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae arweinwyr y cynghorau wedi ei gwneud yn glir i'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol ers y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf eu bod yn "wynebu dibyn ariannol mawr".

Dywedodd y gymdeithas fod rhai gwasanaethau cynghorau wedi cael eu torri o 50% dros yr wyth mlynedd diwethaf, ac y byddai'n anodd iddyn nhw barhau i gynnig gwasanaethau pwysig gyda'r gyllideb fel y mae.

'Cyntaf yn y ciw'

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai awdurdodau lleol yn cael fwy o arian petai'r Canghellor yn rhoi arian ychwanegol yn ei ddatganiad yn yr hydref.

Ar y Post Cyntaf, dywedodd: "Mae e'n anodd i awdurdodau lleol ni yn deall hynny.

"Ni wedi trio sicrhau bod mwy o arian yn cael ei drosglwyddo iddyn nhw i wneud beth maen nhw moyn da fe, yn lle mynd trwy grantiau fel gyda rhai pethau.

"Ond beth allai ddweud yw hwn, fe glywon ni Theresa May yn dweud bod austerity, y wasgfa, wedi gorffen. Wel bydde hwnna yn meddwl y bydde ni yn gobeithio gweld mwy o arian yn dod gan y Canghellor yn ystod yr hydref.

"Os fydde na fwy o arian yn dod o Lundain yna llywodraeth leol fyddai'r rhai cyntaf yn y ciw."

Sefyllfa 'anodd iawn'

Mae Llywodraeth Cymru yn cael y rhan fwyaf o'i arian gan Lywodraeth y DU, er ei fod yn gallu codi peth arian o drethiant.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:"Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus wrth adfer nifer o grantiau i lywodraeth leol ac wedi gwneud nifer o benderfyniadau ariannol eraill y bydd yr awdurdodau lleol yn elwa ohonynt, sydd gyda'i gilydd yn gyfanswm o £84m ar ben y setliad i gynghorau."

Galwodd Bethan Thomas, pennaeth llywodraeth leol undeb UNSAIN Cymru, ar i weinidogion "flaenoriaethu mwy o arian ar gyfer llywodraeth leol ac i achub gwasanaethau lleol cyn ei bod hi yn rhy hwyr".

"Mae wyth mlynedd o gynni gan y Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU wedi rhoi cynghorau Cymru mewn sefyllfa ariannol anodd iawn.

"Mae toriadau gwariant wedi golygu colli 25,000 o swyddi mewn llywodraeth leol yng Nghymru ers 2010."