'Defnyddio enwau aelodau U2 i dwyllo'r GIG o £700,000'
- Cyhoeddwyd
Mae Llys y Goron Merthyr Tudful wedi clywed sut y defnyddiodd tri rheolwr GIG enwau aelodau'r grŵp U2 i gael dros £700,000 o arian cyhoeddus trwy dwyll.
Honnir bod Mark Evill, Michael Cope a Robert Howells wedi defnyddio'r enwau Paul Hewson - enw genedigol Bono - a David Evans, enw go iawn gitarydd y grŵp, The Edge - i guddio'r ffaith eu bod wedi manteisio ar eu swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i sicrhau £707,947.24 i'w hunain.
Mae'r tri yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae'r achos yn parhau.
Clywodd y llys mai Mr Evill oedd arweinydd y twyll honedig a'i fod wedi gwario'r arian ar wyliau moethus yn Dubai, eiddo yn Aberdâr a Chwmbrân, watshis a cheir drud.
Honnir ei fod wedi sefydlu cwmni o'r enw George Morgan Limited - enwi ei gi - wrth weithio fel rheolwr prosiect i'r bwrdd iechyd. Honnir iddo wedyn rhoi cytundebau i'r cwmni gan ddefnyddio enw Paul Hewson.
Roedd yna hefyd amcanbris ffug am waith adeiladu yn Ysbyty Aberhonddu wedi ei arwyddo gan David Evans.
'Haerllug a herfeiddiol'
Dywedodd yr erlynydd, Christopher Rees mai holl bwrpas y diffynnydd wrth sefydlu cwmni George Morgan Ltd oedd "dargyfeirio cytundebau bwrdd iechyd yn anonest i'w hun".
"Fe ddyfeisiodd mwy nag un cymeriad ffug, Paul Hewson a David Evans, mewn gohebiaeth ag aelodau'r bwrdd iechyd.
"Dyna enwau go iawn Bono a the Edge o U2, grŵp y mae'n gwrando arno, i gyflawni'r twyll. Mae'n arwydd o dwyll haerllug a herfeiddiol."
Dywed yr erlyniad fod Mr Evill, 47 oed o Gas-gwent, wedi defnyddio penawdau llythyrau (letterheads) cwmnïau dilys i gyflwyno amcanbrisiau ffug i'r bwrdd iechyd.
Roedd Mr Howells, 65, o Gas-gwent, hefyd yn rheolwr prosiect gyda'r bwrdd, ac mae'n wynebu un cyhuddiad o dwyll.
Dywedodd Mr Rees ei fod "wedi chwarae rhan allweddol yn hwyluso'r twyll" a "gadael ei hun i gael ei lwgrwobrwyo fel bod Evill yn parhau â'i weithredoedd."
Mae'n honni bod Mr Evill wedi prynu Ford Focus gwerth dros £10,000 i Mr Howells fel "taliad" am ei ran yn y twyll.
Honnir fod Mr Evill hefyd wedi llwgrwobrwyo Mr Cope, 43 oed ac o Ferthyr Tudful, i hwyluso'r twyll.
£1.4m o gost i'r GIG
Mewn cyfweliad heddlu, dywedodd Mr Evill - sydd hefyd yn gwadu ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawndwr a thri chyhuddiad o drosglwyddo eiddo yn anghyfreithlon - bod hi'n "hysbys i bawb" mai ei gwmni e oedd George Morgan Ltd.
Honnir hefyd ei fod wedi creu bagiau o ddogfennau dan sêl yn cefnogi achos yr amddiffyn a'u rhoi i'r heddlu, gan ddweud wrthyn nhw mai nhw oedd wedi eu gadael yn ei gartref.
Clywodd y llys fod safon rhan helaeth o'r gwaith a wnaethpwyd ar ran George Morgan Ltd. yn "wael iawn", a bod rhywfaint o waith heb ei gwblhau o gwbwl yn unedau plant ysbytai yn Aberhonddu, Bronllys a'r Trallwng.
Ym marn syrfeïwr siartredig, £1.4m yw cost ailwneud y gwaith i'r GIG.
Mae disgwyl i'r achos bara am bedair wythnos.