Cais i adael cartref bad achub Pwllheli ers 1891
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yr RNLI yn gobeithio y bydd cais i adeiladu gorsaf newydd ym Mhwllheli yn cael sêl bendith, fyddai'n golygu symud o'r safle sydd wedi bod yn gartref i'r gwasanaeth ers 1891.
Mae'r cynlluniau ar gyfer gorsaf newydd, fyddai'n cartrefu'r cwch cyflym aml-dywydd newydd dosbarth Shannon, bellach yn nwylo Cyngor Gwynedd.
Yn ôl yr elusen, mae'r penderfyniad i adeiladu'r orsaf newydd ym Mhlas Heli wedi deillio o'r anghenion presennol o ran achub bywydau ar hyd Bae Ceredigion.
Ond byddai symud o'r orsaf bresennol yn golygu gadael lleoliad sydd wedi bod yn gartref i'r bad achub ym Mhwllheli ers 1891.
'Cyrraedd yn gynt'
Yn ogystal â lle i gwch fwy, byddai hefyd ystafelloedd hyfforddi a swyddfeydd ar gyfer y criwiau yn y ganolfan newydd.
Mae'r RNLI hefyd yn bwriadu cadw'r cwch presennol llai sydd gan y criw ym Mhwllheli.
Gyda'r RNLI yn gweithredu cychod cyflymach fydd yn gallu cyrraedd sefyllfaoedd argyfwng yn gynt, maen nhw wedi gorfod adolygu safleoedd eu canolfannau achub.
Mae hyn yn golygu is-raddio ambell i ganolfan fel yr un yng Ngheinewydd, gyda'r bwriad y bydd y cychod cyflymach ar hyd bae yn golygu na fydd ardaloedd yn dioddef.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI: "Mae pwysigrwydd strategol Pwllheli wedi cael ei nodi yn ystod yr adolygiad ac rydym yn ei ystyried yn lle hanfodol i gael presenoldeb y gwasanaethau achub.
"Yn anffodus oherwydd gofynion gweithredol ac yr anghenion i gael safle newydd, ni fydd y bad achub yn gallu gweithredu o'u safle presennol.
"Ni fydd y safle presennol yn gallu cartrefu'r cwch newydd a'r cerbyd lansio, a does dim modd adnewyddu'r safle yn ddiogel," meddai.
Er nad oes cost bendant eto, mae gorsafoedd tebyg ym Mhorthdinllaen a Moelfre ar Ynys Môn wedi costio £8m a £10m yr un.
Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd drafod y cais dros y misoedd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd12 Mai 2018