Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gerbron llys
- Cyhoeddwyd
Bydd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gerbron llys ddydd Mercher am wrthod talu am drwydded deledu.
Mae Heledd Gwyndaf yn un o dros 70 o bobl sy'n gwrthod talu am y drwydded fel rhan o ymgyrch sy'n galw am ddatganoli grymoedd darlledu i'r Cynulliad.
Hwn fydd yr achos llys cyntaf.
Mae Trwyddedu Teledu (TV Licensing) yn dweud bod yr ymgyrchwyr yn wynebu cael eu herlyn, a dirwy o hyd at £1,000.
Fe fydd y Gymdeithas yn cynnal rali y tu allan i'r llys yn Aberystwyth, lle mae disgwyl i Heledd Gwyndaf ddweud:
"Mae'r frwydr hon yn frwydr dros briod iaith Cymru, dros ddemocratiaeth pobl Cymru a thros ein rhyddid ni fel cenedl.
"Er yr holl ddatblygiadau yn y cyfryngau ac yn y maes digidol ers sefydlu S4C, dim ond un sianel deledu gyflawn Gymraeg sydd gyda ni."
Wrth gyfeirio at bapur polisi - 'Datganoli Darlledu i Gymru' - a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 2017, ychwanegodd: "Mae gan Gymdeithas yr Iaith gynnig arall i bobl Cymru: mwy o ddarlledwyr Cymraeg a Chymreig.
"Byddai ein system ddatganoledig hefyd yn arfogi pobl i greu deunydd yn lleol a rhoi gwir werth i ddarlledu lleol; creu deunydd dirifedi ar lein i bobl o bob oedran yn Gymraeg a'i ariannu drwy ardoll ar gwmnïau sydd yn gwneud arian mawr o weithredu yng Nghymru - cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook.
"Y cam cyntaf tuag at hyn fyddai datganoli rheoleiddio, fel nad Ofcom sydd yn dweud wrthym beth ddylai fod yn bwysig i ni fel cenedl, gan nad oes cliw ganddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn gwasanaethu pobol Cymru, nac hyd yn oed esgus gwneud hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017
- Cyhoeddwyd18 Mai 2017