Tlws Tour De France Geraint Thomas wedi ei ddwyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r tlws a dderbyniodd y seiclwr Geraint Thomas am ennill y Tour De France yn gynharach eleni wedi cael ei ddwyn.
Roedd Team Sky wedi benthyg tlysau o'r tair ras feicio fawr - y Tour de France, y Giro D'Italia a'r Vuelta a Espana - i gwmni Pinarello ar gyfer eu harddangos mewn sioe feicio yn Birmingham.
Mewn datganiad, dywedodd Team Sky: "Yn ystod y gwaith o glirio ar ddiwedd y sioe fe gafodd tlws Tour de France Geraint Thomas ei adael heb ei oruchwylio am gyfnod a'i ddwyn.
"Mae'r mater nawr yn cael ei ymchwilio gan yr heddlu."
'Atgofion gwych'
Bob blwyddyn mae fersiwn newydd o'r tlws yn cael ei greu i'r enillydd ei gadw - nid yw'n dlws sy'n cael ei basio ymlaen i'r enillydd newydd bob blwyddyn.
Dywedodd rheolwr cwmni Pinarello - cwmni sy'n gwneud beiciau - Richard Hemington: "Yn amlwg rydym yn bryderus iawn am hyn.
"Ry'n ni'n derbyn cyfrifoldeb llawn ac wedi ymddiheuro'n bersonol i Geraint. Yn amlwg rydym i gyd yn gobeithio bod modd cael y tlws yn ôl."
Dywedodd Geraint Thomas: "Mae'n anffodus iawn fod hyn wedi digwydd.
"Wrth reswm dyw'r tlws fawr o werth i bwy bynnag sydd wedi ei gipio, ond mae'n golygu lot i fi ac i'r tîm.
"Gobeithio y bydd pwy bynnag sydd wedi ei ddwyn yn ddigon graslon i'w ddychwelyd.
"Mae tlws yn bwysig, ond yr hyn sydd bwysicaf yw'r atgofion gwych o'r haf anhygoel yma, a fydd neb fyth yn gallu mynd â'r rheini i ffwrdd."
Dywedodd Heddlu West Midlands eu bod wedi cael gwybod ar 2 Hydref bod tlws wedi ei ddwyn o ganolfan NEC Birmingham ryw bryd rhwng 18:30 a 19:30 ar 29 Medi.
Maen nhw'n gofyn am glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018