Geraint Thomas yn ennill Tour de France 2018
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas wedi cadarnhau ei fuddugoliaeth yn Tour de France 2018.
Gorffennodd Thomas ar frig y dosbarthiad cyffredinol gyda Tom Dumoulin yn ail a Chris Froome yn drydydd.
Dyma'r tro cyntaf i Gymro ennill y gystadleuaeth, sydd yn cael ei gydnabod fel ras seiclo fwya'r byd.
Wrth gael ei holi ar ddiwedd y ras dywedodd Geraint Thomas fod y fuddugoliaeth yn "anghredadwy".
"Breuddwyd yw cael gwisgo'r crys melyn," meddai.
2007 oedd y flwyddyn gyntaf i Thomas gystadlu.
"Roedd pob dydd yn frwydr bryd hynny," meddai, "ond roedd pethau yn tipyn gwahanol tro yma."
Roedd cymal ddydd Sul yn wahanol i weddill y Tour, gyda thraddodiad nad oes unrhyw un yn herio'r cystadleuydd sydd yn y crys melyn ar y diwrnod olaf.
Roedd hynny'n golygu mai'r cwbl oedd rhaid i Thomas ei wneud oedd croesi'r llinell derfyn ger y Champs-Élysées.
Gyda'r fuddugoliaeth wedi'i selio yn barod, gorffennodd Thomas yn saff yn y peloton, gyda'r prif feicwyr eraill.
Alexander Kristoff o Norwy a enillodd cymal ddydd Sul.
Dathlu
Roedd cryn ddathlu ar y llinell derfyn wrth i Thomas gyfarch hyfforddwr Team Sky, a'i gyd-Gymro, Dave Brailsford ac roedd Syr Dave ar ben ei ddigon.
Mae cannoedd o Gymry wedi teithio allan i Ffrainc i'w gefnogi, ac roedd y Ddraig Goch yn amlwg iawn ymysg y dorf ym Mharis.
Bu cryn dipyn o ymateb i'r fuddugoliaeth yng Nghymru hefyd gyda sawl enw adnabyddus yn ymuno yn y dathlu.
Cafodd sawl adeilad ar hyd a lled Cymru eu goleuo'n felyn nos Sadwrn er mwyn nodi'r achlysur.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, fod Thomas yn arwr "ysbrydoledig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar fin sicrhau ei statws fel un o'r athletwyr gorau erioed".
Yn ôl Sam Warburton, cyn-gapten rygbi Cymru, roedd y fuddugoliaeth yn "gwbl haeddiannol" ac ychwanegodd "na allai fod wedi digwydd i ddyn neisiach".
Hanes Thomas a'r Tour
Dyma'r nawfed gwaith i Thomas gymryd rhan yn y Tour de France, un yn llai na Joop Zoetemelk sydd â'r record o'r nifer fwyaf o ymddangosiadau heb ennill.
2007 oedd y flwyddyn gyntaf iddo gystadlu, pan orffennodd yn 140fed allan o'r 141 a gyrhaeddodd y llinell derfyn ym Mharis.
Roedd Thomas yn cystadlu ar y ffordd ac ar y trac yn gynnar yn ei yrfa, gan ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd, a thair ym Mhencampwriaethau'r Byd rhwng 2007 a 2012.
Ymunodd â Team Sky yn 2010, gan weithio yn bennaf fel domestique - rhywun sydd yn cefnogi arweinydd y tîm - ar gyfer Bradley Wiggins ac yna Chris Froome.
Torrodd Thomas ei belfis yn 2013 ar ôl gwrthdrawiad yng nghymal cyntaf y Tour de France, cyn mynd ymlaen i orffen y ras.
Llynedd, ar ôl ennill y ras yn erbyn y cloc unigol cyntaf, roedd rhaid iddo dynnu allan o'r ras ar ôl disgyn yng nghymal naw a thorri asgwrn yn ei ysgwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018