Jamie Jones wedi ei wahardd o snwcer wedi amheuon o dwyll

  • Cyhoeddwyd
Jamie JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r chwaraewr snwcer Jamie Jones wedi cael ei wahardd yn dilyn honiadau ei fod wedi bod yn rhan o ymdrech i drefnu canlyniadau gemau.

Mae Jones, 30 oed o Gastell-nedd, wedi ei gyhuddo o geisio trefnu canlyniad y gêm rhwng y Cymro David John a Graeme Dott yn 2016.

Cafodd John, sydd yn gyn chwaraewr proffesiynol, ei wahardd ym mis Mai.

Dywedodd Cymdeithas Broffesiynol Billiards a Snwcer y bydd Jones, sy'n rhif 39 yn netholion y byd, yn wynebu gwrandawiad ffurfiol.

Nid oes awgrym fod unrhyw gemau oedd yn cynnwys Jones dan amheuaeth.