Bag aur yn gwerthu am bron i £4,000 mewn ocsiwn

  • Cyhoeddwyd
Bag aurFfynhonnell y llun, Hansons

Gwerthodd bag a fu bron a chael ei daflu i'r bin am £3,900 mewn ocsiwn.

Daeth dwy chwaer o Ddinbych o hyd i'r bag yn eu garej, wedi i un ohonynt ei etifeddu gan ddyn yr oedd arfer gofalu amdano.

Roedd y bag art deco wedi cael ei wneud o aur Americanaidd 15 carat ac yn dyddio o 1913.

Cafodd ei werthu i brynwr preifat mewn ocsiwn yn Bishton Hall yn Sir Stafford ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Hansons
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau o gyfnod Dora Jones ar longau'r Queen Elizabeth a'r Queen Mary eu cadw gyda'r bag

Roedd y bag wedi cael ei gadw yn garej Linda Pritchard, am saith mlynedd, wedi i'w chwaer Margaret, ei etifeddu oddi wrth Gwyn Jones.

Perchennog y bag oedd gwraig Mr Jones, sef Dora, a oedd yn gymdeithaswraig gyfoethog a fu ar fordeithiau ar longau y Queen Mary a'r Queen Elizabeth.

Ynghyd â'r bag, etifeddodd Margaret Pritchard nifer o ffotograffau, llythyrau a bwydlenni o'r mordeithiau hynny.

Peidio â thaflu dim!

Dywedodd yr arwerthwr, Charles Hanson, ei fod wrth ei fodd o weld y bag yn cael ei werthu.

"Mae'n fag hardd â hanes cyfoethog iddo. Mae'n dangos bod hi'n bosib dod o hyd i drysorau arbennig yn y llefydd mwyaf annisgwyl - mewn garej lychlyd yn yr achos yma!

"Mae'n well peidio â thaflu dim, rhag ofn!"