Cymru 1-4 Sbaen

  • Cyhoeddwyd
Cymru v SbaenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru wedi colli'n drwm i Sbaen o 4-1 mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Genedlaethol Cymru.

Gyda Gareth Bale yn absennol oherwydd anaf a Sam Vokes yn arwain y llinell flaen, roedd yna bedwar newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.

Fe gafodd Cymru ddechrau siomedig trwy ildio gôl i dîm arbrofol Luis Enrique wedi wyth munud ar ôl i'r amddiffyn roi gormod o le ac amser i Paco Alcacer.

Amddiffyn llac oedd hefyd i gyfri am ail gôl Sbaen wedi 19 munud gan Sergio Ramos.

Daeth Harry Wilson yn agos at sgorio o gic rydd gydag ergyd dros y traws.

Ond yna fe wnaeth Sbaen ymestyn y fantais gydag ail gôl Alcacer wedi 29 munud - eto o ganlyniad bwlch yn amddiffyn Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fanteisiodd Paco Alcacer ddwywaith ar gamgymeriadau amddiffyn Cymru

Daeth James Chester a David Brooks i'r maes wedi'r egwyl yn lle Ashley Williams a Harry Wilson.

Roedd yna ergyd yn fuan yn yr ail hanner wedi i Ethan Ampadu gael anaf a gorfod gadael y cae.

Daeth pedwaredd gôl y gwrthwynebwyr wedi 74 munud wrth i Marc Bartra benio'r bêl tu fewn i'r postyn pellach o gic gornel Suso.

Roedd yna welliant ym mherfformiad Cymru yn chwarter awr olaf y gêm a sawl ymdrech addawol gan Tom Lawrence, a ddaeth ymlaen fel eilydd yn lle Declan John.

Sgoriodd Sam Vokes gôl gysur gyda pheniad o groesiad arbennig gan David Brooks gyda munud yn unig yn weddill.

Roedd yna 50,232 yn y dorf wrth i Gymru chwarae eu gêm gyntaf yn y stadiwm ers 2011.

Bydd Cymru'n wynebu Gweriniaeth Iwerddon oddi cartref yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth.