Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 2-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Christian EriksenFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christian Eriksen wedi cael cyfnod llwyddiannus yn ddiweddar

Colli o ddwy gôl i ddim fu hanes tîm pêl-droed Cymru wrth iddynt herio Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Yn 25 munud cyntaf y gêm, Cymru oedd yn hawlio y rhan fwyaf o'r meddiant ond ar ôl 32 munud fe lwyddodd Christian Eriksen i roi'r tîm cartref ar y blaen yn Aarhus.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Arbediad gwych gan Wayne Hennessey yn yr hanner cyntaf

Cyn hanner amser roedd Denmarc yn edrych yn fygythiol eto wrth i Pione Sisto anelu ergyd bwerus at y gôl ond fe lwyddodd arbediad gwych Wayne Hennessey yn y gôl Gymru rhag ildio gôl arall.

Yn absenoldeb Ashley Williams, Gareth Bale a wnaeth arwain y Cymry yn Aarhus. ond dim ond tair gwaith lwyddodd Bale i gyffwrdd â'r bêl yng nghwrt cosbi Denmarc.

Roedd Cymru, a oedd yn chwarae mewn gwyrdd a gwyn, i weld yn fwy pwerus ar ddechrau'r ail hanner ond Denmarc a sgoriodd wrth i Christian Eriksen ddyblu'r mantais gydag ergyd bwerus o'r smotyn i ganol y gôl.

Fe ddaeth Cymru yn nes at sgorio yn yr ail hanner ond hedfan dros y trawst wnaeth ergyd Joe Allen ac roedd yna siom arall i Gymru wedi i Ben Davies gael cerdyn melyn ar ôl tacl hwyr.

'Sgôr teg'

Roedd yna gerdyn melyn i Ddenmarc cyn diwedd y gêm am wastraffu amser a cherdyn melyn i Joe Allen hefyd am dacl hwyr.

Nos Iau roedd yna fuddugoliaeth ysgubol i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd ond methiant fu pob ymdrech nos Sul i drechu'r tîm o Sgandinafia.

Yn ôl arbenigwyr roedd y sgôr yn deg. Ar ei gyfrif trydar dywedodd Malcolm Allen fod Denmarc yn haeddu ennill.

Yn dilyn y fuddugoliaeth mae Denmarc felly ar frig y grŵp.