Person wedi cael ei ladd mewn tirlithriad
- Cyhoeddwyd
Mae un person wedi cael ei ladd yn dilyn tirlithriad yn Nghwmduad yn Sir Gaerfyrddin.
Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi cael eu galw i adroddiadau o dirlithriad ar ffordd yr A484, a bod un person wedi marw yn y fan a'r lle.
Yn y cyfamser mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dweud eu bod nhw wedi gweld y "llifogydd gwaethaf ers 30 mlynedd" yn rhannau o'r de orllewin dros y 24 awr diwethaf.
Mae afonydd sydd wedi gorlifo, yn enwedig y Tywi a'r Teifi, wedi achosi trafferth i berchnogion tai mewn nifer fawr o ardaloedd yng ngorllewin Cymru a Phowys.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i bobl i beidio a mentro allan os nad oes rhaid gan fod cymaint o ffyrdd o dan ddŵr a choed wedi syrthio ar draws nifer hefyd.
Gallwch ddod o hyd i'r rhybuddion llifogydd diweddaraf ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol (mae hon yn wefan allanol)
Mae pobl yn ardal Caerfyrddin yn cael eu rhybuddio gan Heddlu Dyfed Powys i beidio a mynd yn agos at ganol y dref am fod yr ardal gyfochr ac afon Tywi wedi gorlifo.
Yn ôl gohebydd BBC Cymru, Aled Scourfield, mae'r dŵr eisioes wedi codi uwchlaw amddiffynfeydd Pensarn ac mae disgwyl llanw uchel am 21.15.
Dywedodd gohebydd arall y BBC, Iwan Griffiths, fod trigolion Nantgaredig ger Caerfyrddin wedi eu hynysu heno am fod y ffordd wedi ei chau.
Meddai Huwel Manley ar rhan Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae peth dwr wedi gorlifo'r amddiffynfeydd ym Mhensarn am 5 o'r gloch heno ac oherwydd hyn rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i rhybuddio'r busnesau ac i helpu nhw i baratoi. Mae rhybudd llifogydd wedi bod yn ei le ers prynhawn ddoe.
"Mae'n staff ni yna ac yn monitro'r sefyllfa o funud i funud."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae 27 o rybuddion llifogydd coch a 45 rhybudd oren yn parhau mewn grym, gyda'r niferoedd yn lleihau yn raddol gydol brynhawn dydd Sadwrn.
Mae 23 o'r rhybuddion coch yn ne-orllewin Cymru ac mae nifer o ffyrdd wedi eu cau a threnau wedi eu canslo oherwydd y tywydd garw.
Dywedodd Aneurin Cox, o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydyn ni wedi gweld nifer fawr o rybuddion yn ne orllewin Cymru, gyda'r nifer yn y tridegau."
"Felly pan fyddwn ni'n cyhoeddi rhybudd o lifogydd mae hynny'n golygu fod yna berygl gwirioneddol, ac mae'r ffaith ein bod wedi cyhoeddi cynifer â hynny mewn cyfnod byr o amser heb ei debyg o'r blaen.
"Rydyn ni wedi edrych ar y cofnodion yn frysiog, ac o edrych ar y cofnodion rhyw 30 mlynedd yn ôl y gwelson ni ddigwyddiad o'r maint hwn ddiwethaf."
Symud o'r cartref
Brynhawn Sadwrn cafodd sawl teulu eu symud o'r cartrefi yn Llechryd yng Ngheredigion wedi i afon Teifi orlifo yno.
Yn ôl un llygad dyst mae perchnogion y tai sydd agosaf at yr afon wedi gosod amddiffynfeydd wrth eu drysau, ond fod y dŵr yn dod i mewn i'r adeiladau drwy'r llawr yn lle.
Ar un adeg doedd dim modd mynd i mewn i dref Llanbedr Pont Steffan gan fod Afon Teifi wedi gorlifo'i glannau ac wedi gwneud y ffordd i mewn i'r dref yn amhosib.
Mae'r afon wedi gorlifo dros faes parcio archfarchnad Co-op y dref, yn ogystal â thai cyfagos.
Mae dŵr hefyd wedi llifo oddi ar gaeau i dai yn Betws Bledrws, sydd ar y ffordd rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.
Ac mae adroddiadau hefyd fod y frigad dân wedi cael eu galw i rai tai yn Llanddewi Brefi yn ystod oriau mân y bore am fod dŵr yn llifo i mewn i gartrefi.
Yn Llanybydder mae rhan o bont y dref wedi cael ei difrodi wrth i'r Teifi orlifo drosti, ac mae dŵr wedi llifo i dai ar o leia ddwy stryd yn y dref sef Stryd yr Orsaf a Highmead Terrace.
Dywedodd un o drigolion Llanybydder wrth BBC Cymru Fyw nad oedd hi wedi gweld llifogydd tebyg i hyn ers dros 30 o flynyddoedd.
Capel Curig oedd yn lle gwlypaf yng Nghymru ddydd Sadwrn gyda 46.2mm o law yn syrthio yna, ac fe gafodd y gwyntoedd cryfaf eu cofnodi yn Aberdaugleddau. Ar un adeg roedd y gwynt yn hyrddio dros 60mya yno.
Rhybudd i deithwyr
Mae Heddlu Dyfed Powys a Chynghorau Sir Gâr a Cheredigion yn rhybuddio pobl i beidio a mentro gyrru am fod ffyrdd yn parhau o dan lot o ddŵr.
Nos Sadwrn roedd nifer o ffyrdd ar draws Cymru yn parhau ynghau:
A487 Pont Ddyfi ym Machynlleth
A44 Gelli Angharad i Lanbadarn
A484 rhwng Cwmduad a Rhos
A40 rhwng Abergwili a Llandeilo (Y ffordd rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri ar agor, ond gyda gofal)
A4042 Felin Fach i Gylchfan Hardwick y Fenni
B4343 Cellan
B4437 Talsarn
B4476 Abercerdin
Pont Llechryd
Pont Llandysul
Pont Llanbedr Pont Steffan
Pont Castell Newydd Emlyn
Pont Cenarth (wedi cael ei gau oherwydd pryderon diogelwch yn dilyn llifogydd)
Pont Croesor rhwng Llanfrothen a Prenteg yng Ngwynedd
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bu'n rhaid i gwmni Trenau Arriva Cymru gyflwyno amserlen gyfyngedig o ganlyniad i'r rhybuddion tywydd.
Bydd y llinellau rhwng Abertawe a Chaerfyrddin, Machynlleth a'r Drenewydd a Chyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn cael eu cau am gyfnodau yn ystod y penwythnos, ac mae teithwyr yn cael eu hannog i wirio gwefan Trenau Arriva Cymru cyn teithio.
Fe wnaeth Irish Ferries ganslo teithiau rhwng Caergybi a Dulyn, gyda Stena Line hefyd yn canslo teithiau Abergwaun i Rosslare.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd, llifogydd a theithio yn eich ardal chi, ewch i'r gwefannau yma: