Cwpan Her: Dreigiau'n ennill yn hawdd

  • Cyhoeddwyd
Elliot Dee
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Elliot Dee ddau gais i'r Dreigiau

Timisoara Saracens 17 - 54 Dreigiau Casnewydd Gwent

Daeth dechrau campus i ymdrech y Dreigiau yng Nghwpan Her Ewrop yn Romania ddydd Sadwrn.

Roedden nhw'n teithio i herio Timisoara Saracens, ac roedd hi'n amlwg o'r dechrau mai'r ymwelwyr oedd y meistri.

Erbyn yr egwyl roedden nhw wedi sgorio pedwar cais yn erbyn un y tîm cartref i sicrhau mantais o 26-10.

Pedwar yn erbyn un oedd hi o ran ceisiau yn yr ail hanner hefyd, gyda'r bachwr Elliot Dee yr unig chwaraewr i sgorio dau gais.

Gyda chicio cywir Josh Lewis yn trosi bob un ond un, roedd y sgôr yn adlewyrchiad teg o feistrolaeth y Dreigiau.

Buddugoliaeth hawdd a phwynt bonws yn ddechrau gwych i'r ymgyrch.