Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 13 - 14 Racing 92
- Cyhoeddwyd
Cafodd y Scarlets eu hamddifadu o fuddugoliaeth yn eu hymgyrch Cwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl i'r dyfarnwr roi cais gosb funud olaf i Racing 92.
Baptiste Chouzenoux roddodd yr ymwelwyr ar y blaen ychydig cyn hanner amser, a tri phwynt yn unig oedd gan y tîm cartref ar yr hanner diolch i gic gosb gan Leigh Halfpenny.
Gydag 20 munud yn weddill roedd 'na gais yr un i Gareth Davies a Johnny McNicholl, gyda'r Scarlets yn hawlio'r fantais dros y Ffrancwyr.
Ond fe wnaeth y dyfarnwr Matthew Carley eu cosbi gydag eiliadau'n weddill o'r gêm yn dilyn cam-chwarae Gareth Davies, gyda'r ymwelwyr yn hawlio'r fuddugoliaeth.
Roedd y canlyniad yn adlewyrchu gêm cwpan agoriadol y tymor diwethaf, pan gollodd y Scarlets yn Toulon, hefyd o bwynt yn unig.