Tafarn 'o bwys hanesyddol' yn Nhrawsfynydd wedi ei losgi
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gwasanaeth Tân a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd wedi i dafarn hanesyddol yn Nhrawsfynydd gael ei losgi'n ulw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dafarn Y Rhiw Goch, Bronaber, Trawsfynydd, am 00:29 fore Sul yn dilyn adroddiadau o dân.
Chafodd neb eu hanafu.
Ar un adeg roedd 'na chwech injan dân a phlatfform tân yn bresennol wrth i'r diffoddwyr geisio rheoli'r fflamau.
Mae yna adeilad wedi bod ar y safle ers y 12fed ganrif.
Dywedodd Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol dros Gonwy a Sir Ddinbych: "Mae achos y tân, sydd wedi dinistrio 100% o'r adeilad hanesyddol, yn destyn ymchwilad."
"Diolch byth chafodd neb eu hanafu, ac fe lwyddodd y diffoddwyr tân i rwystro'r fflamau rhag cyrraedd adeiladau cyfagos."
'Trysor cenedlaethol hanesyddol'
Yn siarad ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd Keith O'Brien - dyn lleol sydd wedi ysgrifennu ar hanes Trawsfynydd - bod yr adeilad yn "drysor cenedlaethol hanesyddol".
"Man geni John Roberts y sant, cartra' i'r Llwydiaid am dros 300 mlynadd, officers' mess wedyn," meddai.
"Lle efo hanes pwysig iddo fo'n llên gwerin Cymru. Yn y 70au, ar nos Wenar, roedd hi'n bron yn amhosib mynd mewn yna - grwpiau megis Geraint Jarman, Mynediad am Ddim, Geraint Løvgreen... yn chwarae yna - mi oedd o'n lle hynod boblogaidd.
"Mae'n mynd i fod yn drist ofnadwy heb y lle.
"Oedd o'n adeilad sylweddol - dwi'n meddwl mod i'n iawn i dd'eud mai hwn oedd yr adeilad mwyaf ym mhlwyf Trawsfynydd o ran maint.
"Os ydy'r ewyllys yna ac os ydy'r gymuned yn gryf ac y tu ôl i'r peth, dwi'n meddwl ella fysa posib codi rwbath allan o'r llwch."
'Trist'
Wrth ymateb i'r digwyddiad dywedodd perchnogion Y Rhiw Goch: "Yn anffodus roedd yna dân enfawr yn Rhiw Goch heno.
"Diolch byth doedd yna neb yn yr adeilad ar y pryd achos roedden ni ar gau.
"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, cysylltwch â ni."
Dywedodd yr aelod seneddol lleol, Liz Saville Roberts ei bod hi'n "drist iawn o glywed fod tafarn olaf ardal Trawsfynydd - Rhiw Goch - wedi llosgi yn ulw yn ystod oriau man y bore."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.