Hela yn Ffrainc: 'Does unman yn ddiogel'
- Cyhoeddwyd
"'Does unman yn ddiogel" mewn ardal o Alpau Ffrainc lle cafodd Cymro ei saethu'n farw ddydd Sadwrn, yn ôl cyfaill iddo.
Cafodd Marc Sutton ei ladd tra ar ei feic mewn coedwig ger Montriond, sy'n agos i'r ffin gyda'r Swistir.
Mae Katie Downs yn byw yn Morzine, gerllaw lle bu farw Mr Sutton, a dywedodd: "Gallai hyn fod wedi digwydd i unrhyw un ohonom ni."
Wedi'r saethu fe gafodd dyn 22 oed ei gludo i'r ysbyty yn diodde' o sioc, ond roedd hefyd dan ymchwiliad ar amheuaeth o ddynladdiad.
Ddydd Llun fe gyhoeddodd maer Montriond ei fod yn gwahardd hela dros dro yn yr ardal.
Ychwanegodd Ms Downs: "Mae ein cymuned wedi dod at ei gilydd er mwyn ceisio newid pethau go iawn, gan gydweithio gydag arweinwyr hela yn lleol.
"Mae pol piniwn o dros 9,000 o bobl mewn papur newydd yma yn dangos bod 76% yn credu y dylid gwahardd hela ar benwythnosau.
"'Does unman yn ddiogel - roedd Marc ar lwybr beicio poblogaidd y tu allan i ardal hela... y llynedd fe gafodd menyw ei saethu tra'n torheulo yn ei gardd ei hun ac yn 2015 fe gafodd dyn ei ladd wedi iddo grwydro i ganol helfa oedd heb osod unrhyw arwyddion o rybudd.
"Y cyfan all ffrindiau Marc wneud nawr yw sicrhau nad yw ei farwolaeth yn ofer drwy sicrhau nad yw hyn yn gallu digwydd eto, ac y gall pawb fwynhau'r mynyddoedd yma i'r eithaf, fel yr oedd e'n gwneud."
Ychwanegodd Ms Downs mai Mr Sutton oedd y pedwerydd person i farw wrth law helwyr ers i'r tymor hela presennol agor fis diwethaf, a'r 35ain ers 2016.
Dywedodd fod helwyr "yn crwydro ardaloedd gwledig ar draws Ffrainc rhwng Medi a Chwefror".
Roedd yn cynghori pobl sydd am fynd i gerdded nei feicio i wisgo dillad llachar a chario chwiban gyda nhw.
"Rydyn ni sy'n byw yma yn gwybod am y risgiau, ac yn gwirio app sy'n dangos yr ardaloedd lle mae hela'n cael ei ganiatáu y diwrnod hwnnw," meddai.
"Mae'r ardaloedd hynny i fod wedi'u marcio'n glir gydag arwyddion rhybudd, ond mae'r ardaloedd mor fawr fel bod hyn yn aml ddim yn digwydd ac mae'n hawdd crwydro i mewn i ardal beryglus i ddiarwybod.
"Mae ein grŵp cerdded weithiau'n cael ein hunain ar lwybr mewn coedwig ac yn clywed gynnau'n tanio o'n cwmpas - pan mae hynny'n digwydd ry'n ni'n canu'n uchel er mwyn ceisio gadael i'r helwyr wybod ein bod ni yno, ac yn cerdded yn gyflym gyda'n gwynt yn ein dwrn.
"Mae'r mynyddoedd yn odidog ac mae pawb sy'n byw yma yn mwynhau'r golygfeydd, ond pan mae'r helfa yn medru rheoli'r ardal am bedwar diwrnod o bob wythnos, mae pobl yn teimlo ofn mynd allan i fwynhau'r lle y maen nhw'n byw ynddo."
Mae cyngor tref Montriond wedi gwahardd hela yn gyfan gwbl dros dro tan y bydd ymchwiliad wedi ei gwblhau i'r materion yma, a gobaith Ms Downs y bydd trefi eraill - a Llywodraeth Ffrainc - yn gwneud yr un modd.
Dywedodd fod y ffaith y gallai marwolaeth Mr Sutton mewn tref sy'n boblogaidd gyda thwristiaid droi pobl i ffwrdd o'r ardal ac mai dyna fydd yn rhoi pwysau ar yr awdurdodau i weithredu wedi blynyddoedd o farwolaethau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018