Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhuthun
- Cyhoeddwyd

Bu farw Shane Lewis, 41 oed o Rhuthun ar ôl cael ei daro gan gerbyd wrth gerdded ar hyd y ffordd tuag at gyfeiriad Llanbedr Dyffryn Clwyd.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A494 yn Rhuthun fore Sul.
Bu farw Shane Lewis, 41 oed o Ruthun ar ôl cael ei daro gan gerbyd wrth gerdded ar hyd y ffordd i gyfeiriad Llanbedr Dyffryn Clwyd yn oriau mân y bore.
Mae teulu Mr Lewis wedi rhoi teyrnged iddo drwy ei alw'n "gymeriad llawn bywyd".
Aeth y deyrnged yn ei flaen i ddweud ei fod yn "dad cariadus i Llewelyn, gŵr i Laura, mab i Peter a Delyth ac yn frawd i Katie a Heather".
'Person caredig'
"Roedd yn byw ei fywyd er mwyn ei fab a'i wraig ac roedd yn berson caredig.
"Bydd yn ein calonnau ac yn ein meddyliau am byth," meddai.
Dywedodd Sarjant Stephen Richards o Heddlu'r Gogledd: "Mae ein meddyliau ni gyda theulu a ffrindiau Mr Lewis ar yr adeg trist yma. Mae nhw'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth neu unrhyw un oedd yn teithio ar ffordd yr A494 rhwng 01:00 - 01:40 fore Sul i gysylltu drwy ffonio 101.