Rheolau newydd i wrthod ceisiadau glo fel mater o bolisi
- Cyhoeddwyd
Byddai ceisiadau i gloddio am lo yn cael eu gwrthod fel mater o bolisi am y tro cyntaf yng Nghymru, dan reolau cynllunio arfaethedig Llywodraeth Cymru.
Byddai'r rheolau newydd ond yn caniatáu datblygiadau dan "amgylchiadau cwbwl eithriadol", ac mae disgwyl y bydd fersiwn terfynol y polisi'n cael ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn.
Dau waith glo mawr sydd yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd - Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful a safle Pwll y Dwyrain Celtic Energy yng Nghwm Aman.
Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar: "Mae'n foment hanesyddol. Dyma ddiwedd glo yng Nghymru wedi cysylltiad a hanes hir a hanesyddol."
Ychwanegodd: "Mae angen i ni fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldeb byd-eang ac effaith yr holl lo dros y blynyddoedd a sicrhau ein bod yn chwarae rhan gwirioneddol yng Nghymru nawr i fod yn gyfrifol a lleihau ein hallyriadau carbon."
Ond mae'r penderfyniad i "aberthu" glo yn gamgymeriad yn ôl Tyrone O'Sullivan - cadeirydd glofa'r Tŵr ger Hirwaun yng Nghwm Cynon, lle mae gwaith yn mynd rhagddo i adfer y safle glo brig wedi chwe blynedd o gynhyrchu.
Dywedodd: "Mewn 25 mlynedd, oni bai bod rhywbeth arbennig yn cael ei ddarganfod, byddwn ni'n datblygu glo eto oherwydd mae'r byd angen ynni."
Mae polisi cynllunio drafft Llywodraeth Cymru yn datgan: "Ni ddylid caniatáu cynigion ar gyfer gwaith glo brig, datblygiadau cloddio dwfn na gwaredu rwbel gwaith glo.
"Petai cynigion, mewn amgylchiadau cwbl eithriadol, yn cael eu cyflwyno byddai angen iddynt ddangos yn glir yr angen amdanynt yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau [yn sgil] newid hinsawdd."
Mae'r cynnig yn mynd y tu hwnt i'r canllawiau presennol sy'n dweud: "Tra bod glo y DU ar gael a'r cynhyrchwyr yn parhau i'w ddewis, mae glo y DU yn cyfrannu at y cyflenwad a'r amrywiaeth o ynni.
"Yn gyffredinol, mae glo brig yn fwy hyblyg a rhatach i'w gynhyrchu na glo pwll dwfn ond mae yna faterion amgylcheddol a mwyniant pwysig cysylltiedig ac mae rhaid eu hystyried yn ofalus iawn."
Byddai'r polisi newydd yn effeithio ar geisiadau newydd, ond byddai trwyddedau cyfredol yn parhau tan eu bod i fod i ddod i ben.
Mae penderfyniad pwerdy Aberddawan ym Mro Morgannwg i ddefnyddio glo llai niweidiol i'r amgylchedd o dramor wrth ddirwyn y gwaith cynhyrchu i ben wedi cael cryn effaith ar ddiwydiant glo Cymru.
Dywedodd prif weithrewdwr Celtic Energy, Will Watson, fod disgwyl i'r cynhyrchu ym Mhwll y Dwyrain ddod i ben erbyn y flwyddyn nesaf, ac mae bwriad i ailgychwyn yn safle Nant Helen yn ne Powys rhwng 2019 a 2022.
Mae hefyd yn dweud eu bod yn canolbwyntio mwy erbyn hyn ar brosiectau adfywio, ar ôl dadlau "yn aflwyddiannus" fod yna ormod o ruthr i gynhyrchu llai o ynni o lo.
Ychwanegodd eu bod yn awyddus i barhau â'r cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i greu gwaith, tai fforddiadwy a dyfodol cynaliadwy mewn ardaloedd glofaol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018