Beirniadu AC am gwyno am doriadau i'w chyngor lleol
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog yn Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro ar ôl iddi daro'i henw ar lythyr oedd yn cwyno i'r llywodraeth am doriadau i'w chyngor lleol.
Fe wnaeth AC Llafur dros Delyn, Hannah Blythyn sydd hefyd yn weinidog dros yr amgylchedd, arwyddo llythyr ar y cyd gyda gwleidyddion eraill Llafur yn y gogledd-ddwyrain yn dweud eu bod nhw wedi "siomi" gan doriad i gyllideb cyngor Sir y Fflint.
Mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud y dylai Ms Blythyn ystyried gadael y llywodraeth.
Ar ôl i'r Ceidwadwyr ei beirniadu, dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones fod Ms Blythyn wedi ymddiheuro ac wedi gofyn i'w henw gael ei dynnu oddi ar y llythyr.
Gyda thoriad o bron 1%, fe fydd Sir y Fflint ymhlith y cynghorau sy'n derbyn y toriadau mwyaf yn y flwyddyn ariannol nesaf.
'Eithriadol'
Cafodd y llythyr i'r aelod cabinet sy'n gyfrifol am ariannu cynghorau sir - yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies - ei ysgrifennu gan yr AC Llafur, Jack Sargeant, gyda chefnogaeth Ms Blythyn a'r ASau Mark Tami a David Hanson.
Er i'r llythyr roi'r bai ar doriadau'r Ceidwadwyr yn San Steffan, mae'n dweud bod yr effaith ar Sir y Fflint yn siomedig ac yn waeth na'r cyfartaledd.
Mae'n galw ar Mr Davies i ganfod rhagor o arian i gynghorau os yn bosib ac i adolygu treth y cyngor.
Dywedodd Mark Isherwood, llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol, ei fod yn "eithriadol i weld aelod o lywodraeth Llafur Cymru yn ymosod yn gyhoeddus ar benderfyniad gan lywodraeth y maen nhw'n aelod ohoni heb ymddiswyddo o'r llywodraeth yn y lle cyntaf".
"Dylai'r gweinidog ystyried ei lle yn y llywodraeth," ychwanegodd.
Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae'r Gweinidog wedi cael ei hatgoffa o'i hymrwymiad i gyfrifoldeb ar y cyd, ac mae hi wedi ymddiheuro am y camfarn ac wedi gofyn i'w henw gael ei dynnu oddi ar y llythyr.
"Dyna ddiwedd y mater."
Wrth siarad â BBC Cymru ddydd Iau ychwanegodd Mr Jones: "Dwi ddim yn meddwl mai ymosodiad oedd e ganddi. Doedd e ddim yn beth doeth na synhwyrol. Mae hi wedi ymddiheuro.
"Mae hi'n weinidog ifanc. Bydd hi'n dysgu o'r peth ac mae'n bryd symud ymlaen."
Dywedodd hefyd nad oedd gan y Ceidwadwyr le i alw am ei hymddiswyddiad "o ystyried y ffordd anniben mae cabinet y DU yn gweithredu, ble mae gweinidogion yn cael rhwydd hynt i ymosod ar ei gilydd yn gyhoeddus".