'Clefyd gwartheg gwallgof' yn yr Alban, ond nid Cymru

  • Cyhoeddwyd
buwchFfynhonnell y llun, Llun stoc

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes achos newydd o 'glefyd y gwartheg gwallgof' yng Nghymru, wedi'r cyhoeddiad fod y clefyd wedi dychwelyd i'r Alban.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod achos BSE Clasurol wedi'i gadarnhau ar fferm yn Sir Aberdeen, Yr Alban.

Yn 2015 daeth cadarnhad bod achos o Enseffalopathi Sbwngffurf Gwartheg clasurol (BSE) - neu 'glefyd y gwartheg gwallgof' - wedi cael ei ddarganfod ar fferm yng Nghymru mewn buwch oedd wedi marw.

Er nad yw'r clefyd BSE yn gallu cael ei drosglwyddo o un anifail i'r llall, mae gwartheg eraill, gan gynnwys epil, yn gorfod cael eu holrhain a'u hynysu cyn cael eu difa yn unol â gofynion yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cyfyngiadau symud sydd wedi bod yn eu lle ar y fferm ers dechrau'r ymchwiliad yn parhau, ac mae ymchwiliadau pellach yn digwydd i nodi tarddiad y clefyd.

"Rydym yn deall nad oes unrhyw ddaliadau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan y canfyddiad hwn.

"Er bod hyn yn newyddion siomedig, nid yw'n gwbl annisgwyl. Mae degau o filoedd o wartheg yn cael eu profi bob blwyddyn fel rhan o'r mesurau goruchwylio clefydau anifeiliaid sydd ar waith ledled y DU, ac mae'r canfyddiad hwn yn dangos bod y mesurau'n gweithio'n dda.

"Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, yn cynnal cysylltiad agos â'i chymheiriaid yn yr Alban a byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa."