Arwydd Pen y Fan: Rhannwch eich lluniau
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n un o'r miloedd o gerddwyr balch (neu blinedig) sydd wedi coffáu cyrraedd copa Pen y Fan trwy dynnu ffoto wrth ymyl yr arwydd yma?
Mae'n garreg filltir eiconig sydd wedi ymddangos mewn hunluniau di-rif gan gerddwyr o bob cwr o'r byd ar hyd y blynyddoedd.
Ond, ddydd Sadwrn, 20 Hydref, mae'r arwydd sydd wedi croesawu pobl i gopa mynydd uchaf de Cymru ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ers tua 20 mlynedd yn cael ei werthu mewn ocsiwn arbennig.
I nodi'r achlysur mae Cymru Fyw yn gofyn i chi rhannu eich lluniau chi o gopa Pen y Fan gyda ni.
Gallwch anfon eich lluniau drwy ebostio cymrufyw@bbc.co.uk.
Gallwch hefyd eu hanfon drwy Facebook BBC Cymru Fyw, dolen allanol neu ar Twitter @BBCCymruFyw, dolen allanol.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwerthu'r arwydd er mwyn helpu i dalu am waith i adnewyddu llwybrau'r mynydd a mae disgwyl iddo godi rhwng £400 a £600.
Ond wrth gwrs, os ydych chi'n un o'r miloedd sydd wedi tynnu llun wrth yr arwydd ar ôl i chi lwyddo i gyrraedd y copa... efallai y byddwch chi'n fodlon talu mwy!