Cer i Greu: Gosodwaith Pen y Fan yn dechrau dathliadau
- Cyhoeddwyd
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru dros y penwythnos fel rhan o ddathliad o greadigrwydd.
Mae disgwyl i'r dathliadau ddechrau ddydd Gwener gyda "gosodwaith celf byw mwyaf" y wlad, wrth i gannoedd o bobl gyfrannu at arddangosiad celfyddydol ar Ben y Fan ym Mannau Brycheiniog.
Bydd mynydd uchaf de Cymru yn gartref i osodwaith torfol dan ofal y Parc Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ôl y trefnwyr, bydd yn gyfle i "roi cynnig ar rywbeth, gwneud rhywbeth a mynd i greu".
Y digwyddiad ar lethrau Pen y Fan fydd y dechreubwynt ar gyfer digwyddiadau ar hyd a lled y wlad yn annog pobl i geisio bod yn greadigol, gan gynnwys sesiynau cerddoriaeth, arddangosfeydd celf, gweithdai dawns, ysgrifennu a mwy.
Calon Cymru fydd enw'r digwyddiad ar Ben-y-Fan, a bydd gwirfoddolwyr o grwpiau dawns lleol, cadetiaid, theatrau ieuenctid a'r cyhoedd yn cydweithio ar ei gyfer.
Dywedodd y coreograffydd, Phil Williams, y byddai'r prosiect yn "dwyn cymunedau Cymru ynghyd ar gyfer digwyddiad celfyddydol cyfranogiad torfol ar lethrau Pen y Fan".
"Drwy greu gosodwaith graddfa fawr o gyrff yn symud, byddwn yn llythrennol yn symud y mynydd yn yr hyn sy'n argoeli i fod yn ddigwyddiad gwefreiddiol," meddai.