Cyllideb 'dyngedfennol' i gynllun £671m i'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Ffatri

Gallai cynllun i greu bron i 5,500 o swyddi yng ngogledd Cymru fod ar ben os nad yw'n cael cefnogaeth Llywodraeth y DU yn y gyllideb ddiwedd y mis.

Dyna farn y corff sydd y tu ôl i'r Cynllun Twf £670m, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC).

Y gobaith ydy y bydd y Canghellor, Philip Hammond yn cyhoeddi cyfran y llywodraeth yn ei gyllideb ar 29 Hydref.

Oni bai bod hynny'n digwydd, mae Dirprwy Arweinydd BUEGC, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn dweud "fydd 'na ddim Cynllun Twf".

Dywedodd Llywodraeth y DU bod mwy o waith i'w wneud ar y cynllun.

'Trawsnewid'

Mae Dogfen Gynnig y Cynllun Twf yn addo cyfanswm buddsoddiad o £671m, gyda £109m o gyfraniadau sector preifat uniongyrchol a £334m o arian cyfalaf gan y Cynllun Twf sy'n dod o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Mae'r prosiectau'n cynnwys cynyddu'r safleoedd ac eiddo i fusnesau ddatblygu, gwella trafnidiaeth a gwell cysylltiadau digidol, yn ogystal â datblygu canolfannau arbenigol i'r sector niwclear, optic, a di-garbon.

Mae'n addo 5,408 o swyddi uniongyrchol a buddsoddiad anuniongyrchol gan y sector preifat o £3.1bn dros 15 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, fe allai'r prosiectau arfaethedig drawsnewid economi gogledd Cymru

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, os na fydd y Cynllun Twf yn rhan o Gyllideb y Canghellor ddiwedd y mis, bydd yn "ergyd fawr".

"Os nad ydan ni'n cael datganiad gan y Canghellor yn y Gyllideb yma, fydd 'na ddim Cynllun Twf.

"Wrth gwrs, mae hwn yn gynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, maen nhw'n awyddus i gael rhywbeth sy'n gweithio.

"A dyna'r drafodaeth 'de ni wedi ei gael efo'r ddwy lywodraeth dros y misoedd diwethaf, ydy eu darbwyllo nhw bod y prosiectau yma'n mynd i fod yn drawsnewidiol, mai'r prosiectau yma ydy'r rhai sydd yn mynd i weithio i'r gogledd a bod ganddom ni gefnogaeth gadarn y sector breifat iddyn nhw," meddai.

'Gwaith i'w wneud'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn dal yn benderfynol o sicrhau Cynllun Twf i ogledd Cymru - ac mae'n glir bod arweinwyr y rhanbarth bod yn gweithio'n egnïol i wneud achos cryf am fuddsoddiad."

"Tra bod rhagor o waith i'w wneud, rydym yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau bod y cais hwn yn llwyddiant."