Trafod cytundeb twf economaidd i ganolbarth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gwaith adeiladu AberystwythFfynhonnell y llun, Ian Capper
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd gwaith adeiladu yn Aberystwyth yn hwb i economi'r ardal

Mae Llywodraeth y DU yn awyddus i glywed gan bobl busnes, ffermwyr a cholegau am syniadau am sut i roi hwb i economi canolbarth Cymru.

Bydd gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, yn cwrdd â chynrychiolwyr yn Aberystwyth ddydd Gwener i drafod eu syniadau hyd yn hyn.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne bod rhoi'r pŵer a'r rhyddid i ardaloedd lywio buddsoddiad yn "rhan allweddol o gael Prydain sy'n gweithio i bawb".

Mae cytundebau twf ar gyfer Caerdydd ac Abertawe eisoes wedi'u cytuno, gyda chynllun tebyg yn cael ei ddylunio ar gyfer y gogledd.

'Cyflawni'r cytundeb gorau'

Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n croesawu cynllun am gytundeb twf ar gyfer canolbarth Cymru yn y Gyllideb ym mis Tachwedd, fel y byddai prosiectau o'r fath yn bodoli ym mhob rhan o Gymru.

Yn ôl yr Arglwydd Bourne, mae eisiau gweld beth sydd wedi'i wneud hyd yn hyn i "ddatblygu'r weledigaeth ar gyfer dyfodol economaidd y rhanbarth" yn y cyfarfod ddydd Gwener.

"Y partneriaid sy'n gysylltiedig sy'n gyfrifol am feddwl am syniadau, a gweithio gyda llywodraethau Cymru a'r DU i gyflawni'r cytundeb gorau ar gyfer canolbarth Cymru," meddai.

"Does gen i ddim amheuaeth am uchelgais arweinwyr yn y canolbarth i wneud yn siŵr bod hyn yn gweithio, wrth i ni gydweithio i gytuno ar gytundeb newydd fydd yn cyflawni twf ar draws y rhanbarth."